Hygyrchedd

Font Size cy

100% 150% 200%

background colour cy

cy Cyferbynnedd
Close cy Ailosod

Henebion yr Unfed Ganrif ar Hugain

Un o gryfderau mawr y Comisiwn Brenhinol, sy’n ei wneud yn wahanol i sefydliadau neu gyrff eraill sy’n curaduro archifau, yw ei fod yn cynnal tîm arolygu prysur. Bydd ymchwilwyr archaeolegol a hanesyddol profiadol yn y Tîm Cofnodi ac Ymchwilio yn ymgymryd â phrosiectau ymchwilio thematig, gan arolygu, dehongli a chyflwyno safleoedd a thirweddau hanesyddol. Mae ein rôl unigryw o ran darparu trosolwg cenedlaethol o archaeoleg ac adeiladau hanesyddol Cymru i’w gweld yn glir yn ein prosiectau ymchwilio thematig. Mae’r detholiad hwn yn adlewyrchu natur barhaus ein gwaith arolygu - hyd at heddiw.