Hygyrchedd

Font Size cy

100% 150% 200%

background colour cy

cy Cyferbynnedd
Close cy Ailosod

Lliwiau’r Hydref

Daeth yr hydref unwaith eto – mae’r plant yn ôl yn yr ysgol, mae’r dyddiau’n byrhau ac mae’r dail yn troi’n goch, oren a phob math o frown. Gan i’r lluniau hyn gael eu tynnu ym mis Medi neu fis Hydref, maen nhw’n cyfrannu naws hydrefol i gasgliad y Comisiwn Brenhinol o awyrluniau o henebion cofrestredig a safleoedd archaeolegol hysbys, ac i arolygon tir o dirweddau ucheldirol sy’n drysorfa enfawr o’r archaeoleg a threftadaeth a geir yn rhai o ardaloedd mwyaf prydferth ac anghysbell Cymru.