Hygyrchedd

Font Size cy

100% 150% 200%

background colour cy

cy Cyferbynnedd
Close cy Ailosod

Capeli Anghydffurfiol - Ffotograffau Diweddar

Ers rhai blynyddoedd bellach bu’r Comisiwn Brenhinol yn creu cofrestr o gapeli Cymru, ac mae wedi casglu gwybodaeth am tua 6400 o adeiladau gyda chymorth llawer o wirfoddolwyr a Capel, Cymdeithas Treftadaeth y Capeli. Mae’r gwaith hwn yn parhau ac yn ddiweddar buom yn tynnu ffotograffau lliw o ansawdd uchel ac yn defnyddio camera gigapicsel i greu rhith-deithiau cydraniad uchel drwy ddetholiad o gapeli. I gyrchu ein holl adnoddau am Gapeli ac i weld y rhith-deithiau, ewch i’n partner wefan http://www.capeli.org.uk/. Gallwch gyfrannu at y wefan hon eich hun drwy ychwanegu ffotograffau ac atgofion.