Hygyrchedd

Font Size cy

100% 150% 200%

background colour cy

cy Cyferbynnedd
Close cy Ailosod

Capeli Angydffurfiol - Ffotograffau Hanesyddol

Mae Prosiect Capeli’r Comisiwn Brenhinol, a sefydlwyd i greu cofrestr o holl gapeli Cymru, wedi cael cymorth gwerthfawr gan grwpiau o wirfoddolwyr sydd wedi darparu gwybodaeth ac wedi tynnu lluniau o’r capeli yn eu cymunedau. Mae llawer o’r ffotograffau hyn wedi’u digido bellach a gellir gweld nifer ohonynt yn y detholiad hwn, sy’n rhychwantu’r cyfnod o 1900 hyd y 1990au, yn ogystal â ffotograffau o’n harolygon cynnar a delweddau hanesyddol a roddwyd i ni.