Hygyrchedd

Font Size cy

100% 150% 200%

background colour cy

cy Cyferbynnedd
Close cy Ailosod

Cymru drwy lygaid Paul R Davis

Mae ein casgliad o ffotograffau Paul R Davis, a gatalogiwyd yn ddiweddar, wedi ein hysbrydoli i greu’r oriel newydd hon ar gyfer dydd Gŵyl Dewi. Mae’r detholiad bach hwn o luniau bendigedig Paul yn dangos lleoedd ledled Cymru, llawer ohonynt mewn môr o heulwen wanwynol ogoneddus. Faint ohonynt y gallwch chi eu hadnabod? I ddarganfod ble maen nhw, cliciwch ar y cyswllt o dan bob llun ac fe gewch eich tywys i ddisgrifiad o’r safle a mwy o gofnodion yn ein casgliad ar gyfer y lle dan sylw.