Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Powis Castle; Powys Castle

Loading Map
NPRN29858
Cyfeirnod MapSJ20NW
Cyfeirnod GridSJ2158106455
Awdurdod Unedol (Lleol)Powys
Hen SirMontgomeryshire
CymunedWelshpool
Math O SaflePLASTY GWLEDIG
CyfnodÔl-Ganoloesol
Disgrifiad
Cafodd yr amddiffynfa gyntaf ar y safle hwn ei hadeiladu gan Gruffudd ap Gwenwynwyn, Arglwydd Powys Wenwynwyn, yng nghanol y drydedd ganrif ar ddeg. Dinistriwyd y castell gwreiddiol bron yn llwyr yn 1274 gan Lywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru. Wedi i Edward I goncro Cymru, adferwyd Gruffudd i'w ystadau ac yn fuan dechreuwyd codi castell newydd ar y safle. Yn dilyn Rhyfel Cartref Lloegr, newidiodd y castell ddwylo'n gyson, ond yn 1722 fe'i dychwelwyd i ddwylo William, ail Ardalydd Powis, a harddodd y castell a chwblhau'r terasau. Mae'r ardd Faroc ffurfiol yn un o ddim ond ychydig o rai gwreiddiol sy'n dal i'w cael ym Mhrydain bellach.

O ganlyniad i gyfres o briodasau di-blant, pasiodd yr ystad a'r teitl i Edward Clive, g'r Henrietta Herbert, perthynas bell i'r trydydd Ardalydd Powis, a'r olaf. Roedd Edward Clive yn fab hynaf Robert Clive, asiant yr East India Company, a orfododd oruchafiaeth Brydeinig ar yr is-gyfandir. Trwy'r briodas hon y symudwyd y casgliad celf Indiaidd helaeth i Gastell Powis yn ddiweddarach. Pan etifeddodd eu mab yr ystad, gwnaed gwaith trwsio sylweddol i'r castell a'r gerddi. Talwyd am y gwelliannau hyn i raddau helaeth o'r cyfoeth enfawr yr oedd y teulu Clive wedi'i ennill yn India.

Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif roedd twrisitiaid yn ymweld yn gyson a'r gerddi trawiadol ac yn edmygu'r casgliad celf a phortreadau a oedd yn cael ei arddangos yn y castell. Yn ystod y Rhyfeloedd Napoleonaidd, roedd yn destun syndod i sawl ymwelydd i weld fod darlun a phenddelw o Napoleon yn cael eu harddangos yn amlwg!

Gwnaed y newidiadau terfynol i Gastell Powis yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd symudwyd ysgol i enethod i'r castell dros dro. Trosglwyddodd George Charles Herbert, pedwerydd Iarll Powis, y castell i ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1952, ond mae'r teulu'n dal i gadw'r hawl i fyw yn y castell.

Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.
Adnoddau
LawrlwythoMathFfynhonnellDisgrifiad
application/pdfETW - European Travellers to Wales ProjectDescription of a visit to Powis Castle by Samuel Heinrich Spiker from 'Reise durch England, Wales und Schottland im Jahre 1817' (1816). Text available in Welsh, English, French and German. Produced through the European Travellers to Wales project.
application/pdfRCAHMW ExhibitionsBilingual exhibition panel featuring sites in Montgomeryshire, produced by RCAHMW, 2005.