Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Holyhead

Loading Map
NPRN32990
Cyfeirnod MapSH28SW
Cyfeirnod GridSH2470882127
Awdurdod Unedol (Lleol)Ynys Môn
Hen SirAnglesey
CymunedHolyhead
Math O SafleTREF
CyfnodAmlgyfnod
Disgrifiad
Caergybi, ar Ynys Gybi, yw tref fwyaf Ynys Mon ac mae'n borthladd pwysig gyda chyswllt fferi i Iwerddon. Mae'r gornel hon o'r ynys yn frith o weddillion cytiau crynion, siambrau claddu a meini hirion sy'n tystio fod pobl wedi byw yma o leiaf ers y cyfnod Neolithig. Adeiladwyd caer yma gan y Rhufeiniaid yn y bedwaredd ganrif, a oedd, mae'n debygol, yn gysylltiedig a chaer fwy Segontium (ger Caernarfon). Yn y chweched ganrif sefydlodd Sant Cybi eglwys a mynachlog ar safle'r hen gaer Rufeinig. Mae'r enw Caergybi felly'n tystio i wreiddiau Rhufeinig a Christnogol cynnar y dref.

Am ganrifoedd lawer bu Caergybi'n gyswllt pwysig ag Iwerddon, ond gydag adeiladu ffordd A5 Telford, yn cynnwys y bont grog dros y Fenai, a dyfodiad rheilffordd Caer a Chaergybi yno yn 1844, fe dyfodd y dref yn gyflym. O ganlyniad i'r cynnydd yn nhraffig y mor bu'n rhaid datblygu harbwr newydd a allai gynnwys hyd at 1000 o longau. Adeiladwyd morglawdd Caergybi yr un amser i ddiogelu'r llongau yn yr 'Harbwr Newydd' hwn rhag stormydd. Hwn yw morglawdd hiraf Prydain ac mae'n 3km o hyd.

Mae goleudy Ynys Lawd, a saif ar ynys greigiog fechan o dan glogwyni uchel, nid yn unig yn tystio i bwysigrwydd hanesyddol Caergybi ym myd morwriaeth, ond hefyd i'r creigiau peryglus sydd dan wyneb y mor gerllaw. Fe'i hadeiladwyd yn wreiddiol yn 1809 ac mae'n dal i weithredu ac yn agored i ymwelwyr. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd nythfeydd mawr o adar mor ar y creigiau hyn a deuai llawer o dwristiaid i oleudy Ynys Lawd i fwynhau'r olygfa drawiadol o filoedd o wylanod swnllyd yn troelli drwy'r awyr.

Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.
Adnoddau
LawrlwythoMathFfynhonnellDisgrifiad
application/pdfUSAA - U.S.A.A.F. Aircraft Accident ReportsDigitised air accident report,produced by the U.S. War Department during World War II, relating to the crash of a U.S.A.A.F. B-24L Liberator at North Stack, Holyhead, 22/12/1944.
application/pdfGAT - Gwynedd Archaeological Trust ReportsGwynedd Archaeological Trust Report relating to Dendrochronology Project at Gronant, Holyhead. Project No: G2113. Report No: 854.
application/pdfETW - European Travellers to Wales ProjectDescription of a visit to Holyhead by Adolf Helfferich from 'Skizzen und Erz?hlungen aus Irland' (c. 1850). Text available in Welsh, English, French and German. Produced through the European Travellers to Wales project.