Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Llangollen

Loading Map
NPRN33095
Cyfeirnod MapSJ24SW
Cyfeirnod GridSJ2150342086
Awdurdod Unedol (Lleol)Denbighshire
Hen SirDenbighshire
CymunedLlangollen
Math O SafleTREF
CyfnodAnhysbys
Disgrifiad
Tref fechan yn Sir Ddinbych yw Llangollen a daw ei henw o Sant Collen, yr honnir iddo sefydlu eglwys yno ar lannau afon Dyfrdwy yn y chweched ganrif. Mae'r bont garreg ysblennydd o'r unfed ganrif ar bymtheg dros y Ddyfrdwy yno yn un o Saith Rhyfeddod Cymru gynt.

Fe wnaeth ffordd yr A5 drwy Langollen ddatblygu o'r briffordd hanesyddol drwy Ogledd Cymru. Awdurdodwyd y peiriannydd sifil Thomas Telford gan Ddeddf Seneddol yn 1815 i foderneiddio'r ffordd gan mai dyma'r prif lwybr post rhwng Iwerddon, tref borthladd Caergybi ar Ynys Mon, a Llundain. Am y rheswm hwn cadwodd Telford oleddf y ffordd yn hynod isel fel y gallai cerbydau'r post deithio'n gyflym ar ei hyd. Golygodd moderneiddio'r ffordd ei bod yn haws a chyflymach hefyd i ymwelwyr ddod i Langollen. Yn 1828 canmolodd y Tywysog Herman von Puckler-Muskau harddwch Dyffryn Llangollen ac ymwelodd a'r Merched enwog yno, Sara Ponsonby ac Eleanor Butler. Flwyddyn yn ddiweddarach, loes i galon Felix Mendelssohn Bartholdy oedd clywed caneuon Beethoven yn cael eu chwarae'n sal gan delynor yn ei westy. Prysurodd wedyn i ymweld a'r ardal gyfagos gan fynd i Gastell Dinas Bran ac Abaty Glyn y Groes.

Un o brif atyniadau diwylliannol Llangollen heddiw yw'r Eisteddfod Ryngwladol flynyddol, g?yl gyfeillgar sy'n dathlu can a dawns o bedwar ban byd. Mae gwreiddiau'r ?yl yn mynd yn ol i 1943 gydag ymwelwyr rhyngwladol yn teithio i'r Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd ym Mangor y flwyddyn honno. Er 1947 mae'r Eisteddfod Ryngwladol chwe niwrnod wedi cael ei chynnal yn Llangollen gan dynnu miloedd o gantorion a dawnswyr o bob rhan o'r byd i'r dref.

Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.
Adnoddau
LawrlwythoMathFfynhonnellDisgrifiad
application/pdfCPAT - Clwyd-Powys Archaeological Trust ReportsClwyd-Powys Archaeological Trust Report No 1257 entitled: 'Historic settlements in Denbighshire' prepared by R J Silvester, C H R Martin and S E Watson 2014.
application/pdfETW - European Travellers to Wales ProjectDescription of a visit to Llangollen by Hermann von P?ckler-Muskau from 'Briefe eines Verstorbenen' (1828). Text available in Welsh, English, French and German. Produced through the European Travellers to Wales project.