Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Llanrwst

Loading Map
NPRN33096
Cyfeirnod MapSH76SE
Cyfeirnod GridSH7988161702
Awdurdod Unedol (Lleol)Conwy
Hen SirDenbighshire
CymunedLlanrwst
Math O SafleTREF
CyfnodCyfredinol
Disgrifiad

Y mae Llanrwst ar ochr orllewinol Afon Conwy yn y lle cyntaf y gellid croesi'r Afon heb ddefnyddio fferi yn hanesyddol, ac mae pont Llanrwst, adeiladwyd ym 1636 (ail-adeiladwyd 1675, 1703) (NPRN 24053), yn dal yn un o nodweddion pwysicaf y dref. Y mae Eglwys Sant Crwst, a saif ger yr afon, yn dyddio o'r bymthegfed ganrif, er bod hi?n bosibl bod y safle yn h?n. Yn ol y son, arch Llywelyn ap Gruffydd yw un o'r eirch yn yr eglwys, a symudwyd i'r eglwys ar ol diddymiad Abaty Maenan (NPRN 16475) ger llaw. Agorwyd ysgol ac elusendy a enwyd Jesus Hospital (NRPN 27376) yn y dref gan Syr John Wynn yn c.1610-12. Mae ychydig o dai a phlasau pwysig ger y dref, yn enwedig Castell Gwydir (NPRN 26555).

Oherwydd ei lleoliad mewn rhwydweithiau cludo gogledd Cymru a?i phellter o dref Conwy, yr oedd Llanrwst yn dref farchnad bwysig fel canolfan y diwydiannau gwartheg a gwlan. Yr oedd marchnad yno ar Ddydd Sadwrn a ffeiriau ar Ddydd Mawrth cyntaf Mis Chwefror, 8 Mawrth, 25 Ebrill, 21 Mehefin, 10 Awst, 17 Medi, 25 Hydref, 11 Rhagfyr ac yr ail Ddydd Mawrth wedyn 11 Rhagfyr. Un o brif farchnadoedd gwlan gogledd Cymru i ddilledyddion Swydd Efrog oedd y ffair ar 21 Mehefin, ac, yn ol y son, gosodwyd y prisiau gwlan Cymraeg yn Lloegr yn y ffair hon. Prynai porthmyn Seisnig wartheg yn lluoedd yn ffeiriau 17 Medi a 25 Hydref. Nodwyd bod y dref o'r ail ganrif ar bymtheg ddiweddar hyd at y bedwaredd ganrif ar bymtheg gynnar a cynhyrchu telynau a thelynorion, ac, yn y deunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, am wneud clociau hefyd.

Tyfodd y dref yn sylweddol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn enwedig ar ol adeiladu Rheilffordd Conwy a Llanrwst (NPRN 415673) ym 1863, yr oedd ei therfyn yn Llanrwst cyn ei hestyn i Fetws-y-Coed ym 1867. Ail-enwyd gorsaf y dref (NPRN 96158) ym 1989 ar ol agor gorsaf newydd i'r de. Daeth Llanrwst yn ddosbarth trefol ym 1897.

(Ffynhonnellau: Samuel Lewis, A Topographical Dictionary of Wales, 3rd edn (London: S. Lewis and Co., 1845), s.v. `Llanrwst?; Norman Tucker, Llanrwst: The History of a Market Town (Ashbourne: Landmark Publishing, 2002))
A.N. Coward, CBHC, 08.05.2019