Daw enw Llandudno o enw'r eglwys o'r chweched ganrif a sefydlwyd gan Sant Tudno ar y Gogarth Mawr. Yn ol traddodiad, roedd Sant Tudno'n fab i Seithenyn, gwarchodwr chwedlonol ac anghyfrifol Cantre'r Gwaelod, y deyrnas a aeth dan donnau Bae Aberteifi drwy ei esgeulustod. Mae tystiolaeth o anheddiad Neolithig yn yr ardal a bu cloddio am gopr ar y Gogarth mor gynnar a'r Oes Efydd. Ond mae gwreiddiau Llandudno'n mynd yn ol i sefydlu Maenor y Gogarth ar gyfer Esgob Bangor yn 1284. Tan ddiwedd y 1840au pentref pysgota a mwyngloddio bychan oedd Llandudno, ond daeth i amlygrwydd yn fuan wedyn o ganlyniad i ddatblygu twristiaeth trefi glan mor.
Yn 1846 gwnaed cynlluniau ar gyfer tref glan mor newydd ac o 1849 ymlaen dechreuodd teulu Mostyn, a oedd yn dal tir wedi'i amgau ar hyd y bae, brydlesu lleiniau i ddarpar ddatblygwyr. Gyda dyfodiad y rheilffordd yn y 1850au dechreuwyd adeiladu gwestai ar hyd y traeth ac adeiladwyd pier mawr yn 1858. Datblygwyd y system tramiau yn 1902 a'r adeg honno hefyd adeiladwyd y Grand Hotel, y gwesty mwyaf yng Nghymru. Hyd heddiw, mae cynllun grid Llandudno yn tystio i ddatblygiad modern y dref lan mor ffasiynol hon.
Gyda'i thraeth gwyn, y golygfeydd ysblennydd ar draws y bae o ben y Gogarth Mawr a'r Gogarth Bach, a mynediad rhwydd i Eryri, fe wnaeth y dref dynnu tyrfa ryngwladol iddi o'r dechrau un. Mewn llythyr a ysgrifennwyd yn 1859, dywed yr ymwelydd Gottfried Kinkel o'r Almaen mai ef oedd y cyntaf i nofio ar draws Bae Llandudno mewn awr a hanner can munud. Ymwelodd Brenhines Romania, Elisabeth von Wied, a'r dref yn 1890. Pan oedd yn tyfu i fyny, roedd ei thiwtor, yr amlieithog Georg Sauerwein, wedi cyflwyno barddoniaeth Gymraeg iddi. Yn ystod ei harhosiad pum wythnos yn Llandudno, cymerodd ran yn nathliadau'r Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno dan ei ffugenw 'Carmen Sylva'. Yn ol hanesyn lleol, mae arwyddair tref Llandudno 'hardd, hafan, hedd' yn deillio o'i disgrifiad hi o Gymru.
Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.
Adnoddau
LawrlwythoMathFfynhonnellDisgrifiad
application/pdfGATP - Gwynedd Archaeological Trust Projects ArchiveArchaeological Watching Brief of Arllwysfa Ganol, Llandudno. Written by Carol Ryan Young in October 2019. Project no. G2619. Report no. 1509. Historic Environment Record Event Primary Reference Number 45432.
application/pdfETW - European Travellers to Wales ProjectDescription of a visit to Llandudno by Arthur d'Arcis from 'Voyage au nord du pays de Galles' (c. 1866). Text available in Welsh, English, French and German. Produced through the European Travellers to Wales project.
application/pdfCAP - Cambrian Archaeological Projects ArchiveDigital report entitled Archaeological Watching Brief Conwy Estuary Strategic Route Development produced by Roddy Mattison, Cambrian Archaeological Projects Ltd., Aug 2006. CAP report no 456, Project No 601
application/pdfCAP - Cambrian Archaeological Projects ArchiveDigital report entitled Conwy Estuary Strategic Route Development archaeological desk-based assessment produced by Phil Evans, Cambrian Archaeological Projects Ltd., Dec 2004. CAP report no 346, Project No 601
application/pdfCAP - Cambrian Archaeological Projects ArchiveRevised report entitled Archaeological Watching Brief Conwy Estuary Strategic Route Development produced by Roddy Mattison, Cambrian Archaeological Projects Ltd., Nov 2007. CAP report no 456, Project No 601
application/pdfGATP - Gwynedd Archaeological Trust Projects ArchiveArchaeological Assessment of Ganol Outfall West Shore, Llandudno. Written by Carol Ryan Young of Gwynedd Archaeological Trust, March 2019. Project no. G2600. Report no. 1474.