Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Castell Dinas Bran (Ruined Castle)

Loading Map
NPRN307064
Cyfeirnod MapSJ24SW
Cyfeirnod GridSJ2224043060
Awdurdod Unedol (Lleol)Denbighshire
Hen SirDenbighshire
CymunedLlangollen
Math O SafleCASTELL
CyfnodCanoloesol
Disgrifiad
Mae adfeilion y castell canoloesol hwn ar ben bryn amlwg ar gyrion Llangollen. Cyn dyddiau'r castell bu bryngaer o'r Oes Haearn ar y safle. Mae tystiolaeth ddogfennol yn awgrymu bod tywysogion Gogledd Powys wedi adeiladu castell pren yma yn niwedd y ddeuddegfed ganrif, ond llosgodd yn ulw heb adael dim o'i ol. Mae'n debygol mai Gruffudd ap Madog, mab sylfaenydd Abaty Glyn y Groes gerllaw, a ail-adeiladodd y castell gyda cherrig oddeutu 1270 ond, fel ei ragflaenwyr, ni wnaeth y trydydd castell hwn - a'r olaf - bara'n hir. Pan wnaeth Henry de Lacy, yn arwain milwyr ar ran y brenin Edward I, agosau at y castell yn 1277, fe wnaeth yr amddiffynwyr Cymreig ei roi ar dan fel na fyddai o ddefnydd wedyn i fyddinoedd y goron Seisnig. Fodd bynnag, nid oedd y difrod i'r castell yn enbyd, oherwydd rhoddodd Edward I garsiwn o filwyr yno am gyfnod byr, ond gadawyd y safle ar ol i gastell Holt gael ei adeiladu fel canolfan newydd yr Arglwyddiaeth wedi marwolaeth Llewelyn ap Gruffudd yn 1282.

Yn ol chwedl, trigai'r dywysoges Myfanwy Fychan yn y castell hwn ac fe ysbrydolodd y bardd Hywel ab Einion i gyfansoddi ei awdl enwog iddi lle dywed ei fod yn clafychu o gariad tuag ati. Erbyn i'r gerdd gael ei hysgrifennu, roedd Castell Dinas Bran wedi mynd yn adfeilion ers tro, a Myfanwy wedi priodi a'r uchelwr Goronwy ap Tudur Hen, Arglwydd Penmynydd. Dywedir i'r gerdd hon symbylu John Ceiriog Hughes i ysgrifennu'r gerdd 'Myfanwy Fychan', yn ogystal a geiriau Richard Davies i'r gan boblogaidd 'Myfanwy', y cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Joseph Parry.

Erbyn dyddiau cynnar twristiaeth fodern, roedd Dinas Bran yn adfail hynod drawiadol ar ben bryn amlwg a noeth. Oherwydd ei fod mor agos i Langollen, a oedd ar lwybr y briffordd hanesyddol drwy Ogledd Cymru, cafodd yr adfeilion sylw amlwg yn nisgrifiadau a darluniau llawer o deithwyr.

Cyngor Sir Ddinbych, gyda chymorth gan Cadw, sy'n gyfrifol bellach am Gastell Dinas Bran.

Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.
Adnoddau
LawrlwythoMathFfynhonnellDisgrifiad
application/pdfCPATP - Clwyd-Powys Archaeological Trust Project ArchivesReport no. 1739 relating to CPAT Project 2457: Condition Survey for Castell Dinas Brân, Llangollen, dated 2020.
application/pdfETW - European Travellers to Wales ProjectDescription of a visit to Castell Dinas Bran by Franz Br?mel from 'Nordland-Fahrten. Zweite Abteilung' (c. 1870). Text available in Welsh, English, French and German. Produced through the European Travellers to Wales project.