Hygyrchedd

Font Size cy

100% 150% 200%

background colour cy

cy Cyferbynnedd
Cau Ailosod

RHYL

Manylion y Safle

© Copyright and database right 2021. All rights reserved. Ordnance Survey licence number 0100022206

NPRN 33112

Cyfeirnod Map SJ08SW

Cyfeirnod Grid SJ0086581430

Awdurdod Lleol Sir Ddinbych 

Hen Sir Fflint

Cymuned Rhyl

Math o Safle TREF

Dosbarth Cyffredinol SIFIL

Cyfnod Amlgyfnod

Disgrifiad o´r Safle Tref glan môr Fictoraidd ar arfordir gogledd-ddwyrain Cymru yw Y Rhyl. Gyda thraeth hir, tywodlyd a lleoliad delfrydol oddi ar ffordd arfordirol yr A5 drwy Ogledd Cymru, datblygodd Y Rhyl fel tref newydd yn y 1830au a'r 1840au, i raddau helaeth o ganlyniad i'r cynnydd mewn twristiaeth ymdrochi môr. Oherwydd ei hagosrwydd at Lerpwl a Manceinion daeth yn boblogaidd yn fuan fel cyrchfan i dwristiaid o ogledd-orllewin Lloegr, tra denwyd ymwelwyr o Lundain yno gyda dyfodiad y rheilffordd yn 1848. Tyfodd y dref yn gyflym gan ddarparu'r holl gyfleusterau a ddisgwylid mewn tref glan môr, yn cynnwys pier 2,115 troedfedd o hyd, llyn artiffisial i gychod, ffair bleser a rheilffordd fechan.

Yn ôl arweinlyfr a ysgrifennwyd gan Mark Luke Louis, ymfudwr o Ffrainc, roedd gan Y Rhyl yn 1854 un o'r gorsafoedd trên mwyaf modern, y baddonau, llyfrgelloedd ac ystafelloedd darllen gorau, yn ogystal â gwestai hyfryd ar hyd y promenâd. Yn ogystal â chanmol y cyfleusterau gwyliau modern hyn, tynnodd Ffrancwr arall, Alphonse Esquiros, sylw at fawredd mynyddoedd Eryri yn codi yn y cefndir tu ôl i'r dref arfordirol hon.

Erbyn ail hanner y ganrif, roedd enw da Y Rhyl fel cyrchfan wyliau o safon wedi mynd ar led, a galwai llongau pleser gyda theithwyr o Lerpwl a Sir Gaerhirfryn yno'n rheolaidd. Yn yr ugeinfed ganrif denodd y dref sylw drachefn gyda'r gwasanaeth hofrenfad cyntaf i deithwyr. Mae'n amlwg i'r Rhyl fod yn boblogaidd gydag awduron Ffrengig, oherwydd fe wnaeth un arall, D'Arcis, ganmol cynllun modern y dref, ei hinsawdd iach a'r dewis helaeth o atyniadau poblogaidd oedd yno am brisiau rhesymol. Dywedodd ei bod yn gyrchfan ddelfrydol i deuluoedd ac yn baradwys i blant, gyda'r lle'n dod yn fwrlwm o fywyd bob haf. Roedd yn arbennig o hoff o'r traethau hardd a diogel, y cerddorfeydd yn chwarae ar draws y dref a'r sioeau pypedau niferus ar gyfer y plant.

Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.

Delweddau Digidol

Chofnodion Archifol

Adnoddau Ar-lein