Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Eglwys Sant Crwst, Llanrwst

Loading Map
NPRN55093
Cyfeirnod MapSH76SE
Cyfeirnod GridSH7974161616
Awdurdod Unedol (Lleol)Conwy
Hen SirDenbighshire
CymunedLlanrwst
Math O SafleEGLWYS
CyfnodCanoloesol
Disgrifiad

Adeiladwyd Eglwys Llanrwst yn hwyr yn y bymthegfed ganrif, efallai yn y 1470au ar ol i'r dref gael ei llosgi. Ym 1633-4, ychwanegwyd Capel Gwydir at gornel dde-ddwyreiniol yr eglwys gan Richard Wynn o Wydir (gweler NPRN 26555). Ychwanegwyd twr yn y gorllewin ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a gymerodd le'r cwt clychau cynharach. Ym 1882-4, ychwanegwyd ystlys ogleddol pan adferwyd yr eglwys gan Paley ac Austin. Ailadeiladwyd y porth deheuol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg hefyd.

Mae'r eglwys wedi?i hadeiladu o rwbel llwyd a charreg galch wedi?i naddu. O ran ei hadeiladwaith, mae corff a changell yr eglwys heb eu gwahanu. Mae'r twr gorllewinol trillawr yn gastellog gyda therfyniad siap croes a bwtresi croeslinol. Ar lawr y clychau mae ganddo barau o ffenestri ddellt ar bob ochr. Mae gan y porth dalcen o bren a mynedfa fwaog gothig. Adeiladwyd yr ystlys ogleddol mewn arddull Perpendicwlar diweddar ac mae ganddi fwtresi grisiog rhwng y ffenestri. Mae ffenestr o'r bymthegfed ganrif, gyda threswaith panel yn ei rhan uchaf, yn nhalcen dwyreiniol corff yr eglwys. Mae Capel Gwydir, yn y gornel dde-ddwyreiniol, wedi?i adeiladu o garreg lwyd dywyll mewn haenau yn yr arddull Perpendicwlar diweddar. Mae gan y Capel barapedau crenelog, gyda therfyniadau yn y cornelau a bwtresi grisiog rhwng y ffenestri mawr y mae ganddynt dreswaith panel yn eu rhannau uchaf.

Y tu mewn i'r eglwys, mae'r corff a'r gangell wedi?u gwahanu gan groglen ddeuddeg bae gyda llofft, o ddiwedd y bymthegfed ganrif neu ddechrau'r unfed ganrif ar bymtheg, sydd wedi?i haddurno?n gyfoethog a gwinwydd, dail derw a mes. Mae gan y pum bae ar y naill ochr a'r llall i'r drws pensgwar bennau treswaith, gan gynnwys un sy?n dangos gwrthrychau'r Dioddefaint ac un arall sy?n dangos moch yn bwyta mes. Yn ol y son, roedd y groglen yn cynnwys cerflun pren o'r sant hefyd ar un adeg (gweler Crossley 1946, 34-39, am ddisgrifiad llawn). Mae gan gorff yr eglwys do bwa-gleddog nodedig o'r bymthegfed ganrif a cheir to tebyg a godwyd yn y 1880au yn yr ystlys ogleddol. Mae'r bedyddfaen sgwar wedi?i osod ar bedestal diweddarach.

Mae Capel Gwydir yn cadw rhai nodweddion o'r ail ganrif ar bymtheg, gan gynnwys to nenbren crwm wedi?i addurno a bylau addurnol a symbolau herodrol. Mae'r waliau wedi?u panelu ac mae sgrinwaith mewn bwa llydan o garreg yn gwahanu'r capel oddi wrth weddill yr eglwys; mae cerflun o eryr uwchben y drws. Addurnwyd y seddau a phatrymau mewn bwau pengrwn a therfyniadau siap pen. Ceir yn y capel sawl carreg goffa nodedig, gan gynnwys par o obelisgau wedi?u haddurno?n gyfoethog i John (bu farw 1627) a Sydney Wynn, llechen fawr sy?n cofnodi adeiladu'r capel, cerflun o faban ar fwrdd (Sidney Wynn, bu farw 1639), a sawl plac pres siap losen. Mae yma ddwy arch garreg arbennig. Mae un yn dangos cerfddelw o farchog, ei ben yn gorffwys ar glustog, gyda llew wrth ei draed. Mae arysgrif arni, sef: `HIC IACET HOWELL COYTMOR AP GRUFF. VACHAN AP GRIFF ARM?. Mae arch garreg ganoloesol ger y drws, y mae ei hochrau wedi?u haddurno a phedeirdalennau syml, y dywedir ei bod yn perthyn i Llywelyn ap Iorwerth (bu farw 1240). Mae?n debyg iddi gael ei chludo i'r capel yn sgil diddymu Abaty Maenan (NPRN 16475). Mae'r Inventory of Denbighshire (CBHC, 1914) yn nodi bod oed yr arch tua hanner cant i gant o flynyddoedd yn ddiweddarach.

(Ffynonellau: S. Baring-Gould a John Fisher, The Lives of the British Saints (Llundain: Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1911), III: t. 150; CBHC, An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: IV. County of Denbigh (Llundain: HMSO, 1914), tt. 147?48; Fred H. Crossley, `Screens, Lofts and Stalls Situated in Wales and Monmouthshire, Part Four?, Archaeologia Cambrensis, XCIX (1946), 1?56 (ar gael o cylchgronau.llyfrgell.cymru); Edward Hubbard, The Buildings of Wales: Clwyd (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1986), tt. 234?35; Peter Lord, The Visual Culture of Wales: Medieval Visions (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2003), 236?37; Disgrifiad Cadw o Adeilad Rhestredig, Cyfeirnod 3622; Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol, PRN 7034)
A.N. Coward, CBHC, 08.05.2019
Adnoddau
LawrlwythoMathFfynhonnellDisgrifiad
application/pdfCPATP - Clwyd-Powys Archaeological Trust Project ArchivesReport from an Archaeological Watching Brief carried out during refurbishment works at St Grwst’s Church and Gwydir Chapel, Llanrwst,, by Clwyd-Powys Archaeological Trust in 2019-2020. Report no: 1728, Project no. 2399.