Hygyrchedd

Font Size cy

100% 150% 200%

background colour cy

cy Cyferbynnedd
Cau Ailosod

Y BALA

Manylion y Safle

© Copyright and database right 2019. All rights reserved. Ordnance Survey licence number 0100022206

NPRN 58040

Cyfeirnod Map SH93NW

Cyfeirnod Grid SH9260535985

Awdurdod Lleol Gwynedd 

Hen Sir Meirionnydd

Cymuned Bala

Math o Safle TREF

Dosbarth Cyffredinol SIFIL

Cyfnod Amlgyfnod

Disgrifiad o´r Safle Tref fechan ym mhen gogleddol Llyn Tegid yw'r Bala wedi'i hamgylchynu gan fryniau a mynyddoedd. Ni ellir bod yn gwbl sicr o ddechreuadau hanesyddol Y Bala. Mae olion presenoldeb Rhufeinig yn yr ardal, ond mae bron yn sicr fod Tomen y Bala, twmpath crwn gydag ochrau serth iddo, yn dyddio o'r ddeuddegfed ganrif. Fe'i cysylltir â llys cwmwd Penllyn a chofnodwyd iddo gael ei goncro yn 1202. Yn 1310 sefydlwyd bwrdeisdref wedi'i chynllunio. Yn 1324 derbyniodd y gymuned fechan ei siarter fwrdeisdref gyntaf a dechreuodd treflan ymledu ar hyd yr hyn sy'n Stryd Fawr heddiw.

Heddiw, cysylltir Y Bala'n bennaf â chynnydd Anghydffurfiaeth yn ystod y ddeunawfed ganrif a gafodd effaith barhaol ar y dref. Yn 1800, cerddodd Mary Jones, geneth 16 oed o Lanfihangel-y-pennant, 25 milltir i'r gorllewin, yr holl ffordd i'r Bala i brynu beibl gan Thomas Charles, sefydlydd ysgol leol a chlerigwr a oedd yn un o arweinwyr y Methodistiaid Calfinaidd. Fe wnaeth ei phenderfyniad i gael beibl gymaint o argraff ar Charles fel yr aeth ati, gyda nifer o gyfeillion dylanwadol, i sefydlu'r Gymdeithas Feiblaidd Frytanaidd a Thramor ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Yn 1837 sefydlwyd Coleg y Bala i'r Methodistiaid Calfinaidd yno gan Lewis Edwards. Yn ddiweddarach yn y ganrif, sefydlwyd Bodiwan, coleg diwinyddol yr Annibynwyr Cymraeg. Mae prifathro Coleg Annibynnol y Bala o 1855, Michael D. Jones, yn fwyaf adnabyddus fel sefydlydd Y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.

Pan arhosodd yr ieithydd Almaenig enwog, Hugo Schuchardt, yn Y Bala am bythefnos yn 1875, roedd wrth ei fodd gydag ansawdd llyfrgelloedd y colegau a mwynhaodd ymarfer ei Gymraeg gyda'r trigolion lleol, y myfyrwyr a'r darlithwyr diwinyddiaeth fel ei gilydd. Rhwng sgyrsiau, treuliodd Schuchardt ei amser yn chwilio am yr afanc dirgelaidd a drigai yn ôl y sôn yn nyfroedd Llyn Tegid, a bu'n crwydro o gwmpas y wlad gyfagos hefyd ar drywydd barddoniaeth a mytholeg Gymreig.

Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.

Delweddau Digidol

Chofnodion Archifol

Safleoedd Cysylltiedig

Adnoddau Ar-lein