Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Valle Crucis Abbey

Loading Map
NPRN95205
Cyfeirnod MapSJ24SW
Cyfeirnod GridSJ2043544154
Awdurdod Unedol (Lleol)Denbighshire
Hen SirDenbighshire
CymunedLlantysilio
Math O SafleABATY
CyfnodÔl-Ganoloesol
Disgrifiad
Sefydlwyd abaty Sistersaidd helaeth Glyn y Groes yn 1201 gan Madog ap Gruffudd Maelor, tywysog Powys Fadog, ac mae 2km i'r gogledd o dref Llangollen. Bu tan yn yr abaty yn 1236 ac mae arysgrif yn uchel uwchben y ffenestr orllewinol yn nodi i'r rhan hon o'r adeilad gael ei chwblhau gan yr Abad Adda (1330-44). Yn ystod ail hanner y bymthegfed ganrif, daeth Glyn y Groes i fri ar sail ei hysgolheictod, ei nawdd i'r beirdd a'i chasgliad o lawysgrifau llenyddol Cymraeg.

Fodd bynnag, erbyn cyfnod diddymu'r mynachlogydd ym Mhrydain, yn ystod teyrnasiad Harri'r VIII yn 1537, roedd yr abaty eisoes yn edwino. Wedi'r diddymu, aeth yr ystad gyfan i feddiant Syr William Pickering a chafodd ef orchymyn i dynnu'r plwm gwerthfawr oddi ar doeau'r adeiladau a'i roi i'r Goron. Dirywiodd Glyn y Groes yn gyflym yn dilyn y difrod hwn i'r to a chario cerrig oddi yno ar raddfa fawr.

Erbyn dechrau'r ddeunawfed ganrif roedd Glyn y Groes wedi newid perchenogaeth sawl gwaith cyn iddi ddod i feddiant ystad Coed Helen. Er gwaethaf cyflwr adfeiliedig yr adeiladau, trowyd y cabidyldy yn d? fferm yn 1800 a defnyddiwyd yr hen ffreutur fel ysgubor. Cwynai llawer o dwristiaid a ddeuai i weld yr adfeilion trawiadol yn y cyfnod Rhamantaidd bod rhaid iddynt ddringo dros domennydd o dail!

Dechreuwyd cloddiadau archaeolegol yng Nglyn y Groes yn y 1850au ac mae'r safle'n cael ei warchod gan Cadw yn awr.

Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.
Adnoddau
LawrlwythoMathFfynhonnellDisgrifiad
application/pdfRCAHMW ExhibitionsOne pdf showing a set of bilingual centenary exhibition panels entitled Can Mlynedd o Arolygu a Chofnodi. One Hundred Years of Survey and Record, produced by RCAHMW, 2009.
application/pdfETW - European Travellers to Wales ProjectDescription of a visit to Valle Crucis Abbey by Julius Rodenberg from 'Ein Herbst in Wales' (1856). Text available in Welsh, English, French and German. Produced through the European Travellers to Wales project.
application/pdfCPAT - Clwyd-Powys Archaeological Trust ReportsClwyd-Powys Archaeological Trust Report No 1340 entitled: 'The Monastic Granges of East Wales: A Scheduling Enhancement Project' prepared by R. J. Silvester and R. Hankinson 2015.
application/mswordETW - European Travellers to Wales ProjectDigital archive coversheet relating to Valle Crucis Abbey Gigapan Project, carried out by Sue Fielding and Rita Singer, July 2017.
application/pdfCPATP - Clwyd-Powys Archaeological Trust Project ArchivesReport no. 1746 relating to CPAT Project 2477: Heritage Impact Assessment of the development of Abbey Grange Hotel Camping Site, Llangollen.