Mae gwefan Coflein.gov.uk wedi’i chynllunio i fod mor hygyrch a defnyddiadwy â phosibl i bob defnyddiwr ac fe’i hadeiladwyd gan ddilyn safonau cyffredin y we.
Polisi ynghylch Hygyrchedd
Ein nod yw cyrraedd safon Lefel AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG 2.0). Mae’r canllawiau hyn yn esbonio sut mae peri i gynnwys y we fod yn fwy hygyrch i bobl ag anableddau ac iddo fod yn hawdd i bawb ei ddefnyddio. Lle bynnag y bydd modd, ein nod yw:
- Darparu dewisiadau testun ar gyfer cynnwys di-destun.
- Darparu capsiynau a dewisiadau eraill ar gyfer deunydd amlgyfrwng.
- Creu cynnwys y gellir ei gyflwyno mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys gwneud hynny drwy ddefnyddio technolegau cynorthwyol, heb golli ystyr.
- Ei gwneud hi’n haws i’r defnyddwyr weld a chlywed y cynnwys.
- Trefnu i bob swyddogaeth fod ar gael drwy ddefnyddio bysellfwrdd.
- Rhoi digon o amser i’r defnyddwyr ddarllen a defnyddio’r cynnwys.
- Peidio â defnyddio cynnwys sy’n parlysu’r wefan.
- Helpu’r defnyddwyr i lywio’u ffordd drwy’r wefan a dod o hyd i’r cynnwys.
- Trefnu i’r testun fod yn ddarllenadwy ac yn ddealladwy.
- Peri i’r cynnwys ymddangos a gweithredu mewn ffyrdd rhagweladwy.
- Helpu’r defnyddwyr i osgoi camgymeriadau a chywiro camgymeriadau.
- Cynyddu hyd yr eithaf y cymaroldeb â’r offer y bydd defnyddwyr yn eu defnyddio heddiw ac yfory.
Porwyr
Cymhwysiad meddalwedd yw porwr a chaiff ei ddefnyddio i adalw, cyflwyno a theithio ar draws adnoddau gwybodaeth ar y We Fyd-Eang. Adeiladwyd gwefan Coflein.gov.uk i weithio orau gyda’r porwyr pen-desg a symudol diweddaraf, a gall hynny olygu y gallai porwyr hŷn arddangos cyflwyniadau o rai cydrannau mewn arddull wahanol ond cwbl weithredol. Cynorthwywn y fersiynau diweddaraf o’r porwyr a’r llwyfannau hyn:
|
CHROME |
FIREFOX |
INTERNET EXPLORER |
OPERA |
SAFARI |
ANDROID |
Cynorthwyir |
Cynorthwyir |
D/A/G |
Ni chynorthwyir mohono |
D/A/G |
IOS |
Cynorthwyir |
D/A/G |
Ni chynorthwyir mohono |
Cynorthwyir |
|
MAC OS X |
Cynorthwyir |
Cynorthwyir |
Cynorthwyir |
Cynorthwyir |
|
WINDOWS |
Cynorthwyir |
Cynorthwyir |
Cynorthwyir |
Cynorthwyir |
Ni chynorthwyir mohono |
I ddiweddaru’ch porwr i gael y fersiwn diweddaraf ohono, dilynwch y cysylltau hyn:
Google Chrome
Mozilla Firefox
Microsoft Internet Explorer
Opera
Apple Safari
Ffeiliau PDF
Mae rhai o eitemau’n casgliad ni ar gael ar ffurf Fformat Dogfen Gludadwy (PDF). Mae’r mwyafrif o borwyr modern yn cynnwys modd i weld dogfennau PDF. Gellir hefyd ddefnyddio Adobe Reader for desktop ac Adobe Reader for mobile i weld ffeiliau PDF. Gallwch chi lwytho’r naill a’r llall i lawr am ddim.
Ffeiliau CSV
Mae ffeil gwerthoedd-a-wahenir-gan-goma (CSV) yn storio data tablaidd (rhifau a thestun) ar ffurf testun plaen. Gallwch chi lwytho canlyniadau chwiliad i lawr ar ffurf ffeil CSV i weithio arni all-lein. Gall y ffeiliau hynny gael eu hagor gan gymwysiadau taenlen fel Microsoft Office Excel, a hefyd gan ddatrysiadau ffynhonnell-agored Libre Calc ac OpenOffice Calc y gallwch chi lwytho’r naill a’r llall ohonynt i lawr am ddim.
Ffeiliau KML
Gellir llwytho canlyniadau chwiliadau gwefannau i lawr ar ffurf ffeiliau KML. Mae ffeil KML yn pennu set o nodweddion (marciau lle, delweddau, disgrifiadau testunol ac ati) i’w harddangos yn Google Earth neu unrhyw feddalwedd geo-ofodol sy’n gweithredu amgodiad KML.
Gadael adborth
Cysylltwch â ni neu gadewch adborth i ni os cewch chi drafferth wrth ddefnyddio gwefan Coflein.gov.uk. Fe wnaiff hynny’n helpu ni i wneud gwelliannau.