Beth yw Coflein?

Coflein yw cronfa ddata ar-lein Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC) – y casgliad cenedlaethol o wybodaeth am amgylchedd hanesyddol Cymru. O’r ddau air cof a lein y daw’r enw.

Mae Coflein yn cynnwys manylion miloedd ar filoedd o safleoedd archaeolegol, henebion, adeiladau a safleoedd arforol yng Nghymru,ynghyd â mynegai i’r lluniadau, y llawysgrifau a’r ffotograffau sydd yng nghasgliadau archifol CHCC.

Pa Fath o Wybodaeth Sydd ar Gael Drwy Coflein Ar Hyn o Bryd?

Mae cyfleuster chwilio Coflein yn arddangos detholiad o wybodaeth o gronfa ddata CHCC, gan gynnwys enw a lleoliad safle, heneb neu adeilad, a’r math o safle. Darperir gwybodaeth hefyd ar ffurf testun disgrifiadol (os yw ar gael), ynghyd â gwybodaeth o gatalog archif CHCC am eitemau sy’n ymwneud â’r safle. Dylai’r defnyddwyr fod yn ymwybodol bod y gronfa ddata’n dal i gael ei datblygu ac nad yw’r holl wybodaeth a gedwir yn CHCC ar gael drwy’r cyfleuster hwn. Mae rhaglen systematig o ddigido a chatalogio ar y gweill i gynyddu’r wybodaeth sydd ar gael ar-lein, ond anogir defnyddwyr hefyd i gysylltu â staff y Llyfrgell a’r Gwasanaethau Ymholiadau yn CHCC neu ffonio: 01970 621200 i holi a oes cofnodion ychwanegol.

Gan fod archif CHCC yn tyfu o ddydd i ddydd wrth i wybodaeth gael ei chasglu’n uniongyrchol o raglenni arolygu’r Comisiwn Brenhinol a thrwy i gyrff eraill ac unigolion gyflwyno deunydd, mae’r casgliadau erbyn hyn yn cynnwys dros 1.25 miliwn o ffotograffau, 70,000 o gynlluniau a lluniadau a 50,000 o fapiau hanesyddol yn ogystal â miloedd o arolygon ac adroddiadau. Yn raddol, caiff eitemau o’r casgliadau hynny eu digido ac fe fyddant hwy, yn ogystal â gwybodaeth o’r catalog, ar gael ar-lein. Fwy a mwy, mae rhaglenni arolygu’r Comisiwn yn casglu gwybodaeth mewn fformatau digidol, ac fe drefnir i’r data hynny hefyd fod ar gael ar-lein.

Dilysu

Gan fod y manylion yn y gronfa ddata hon wedi’u tynnu ynghyd o amrywiaeth o ffynonellau, nid ydynt, yn aml, wedi’u gwirio yn y maes gan y Comisiwn Brenhinol. Mae hynny’n arbennig o wir am y safleoedd arforol gan i’r mwyafrif ohonynt gael eu cofnodi o ffynonellau anuniongyrchol, a dylid ystyried bod y data am eu lleoliadau yn dynodi mannau cyffredinol yn unig. Byddai croeso i wybodaeth fanylach sy’n hysbys am eu lleoliad.

Y nod yw llunio rhestr gynhwysfawr o safleoedd archaeolegol a phensaernïol yng Nghymru, ond tasg barhaus yw honno gan y gall ymchwil, arolygon maes neu deithiau hedfan pellach ddod o hyd i ragor o safleoedd, ac ni ellir gwarantu bod y rhestr yn gyflawn. Er y credir bod y wybodaeth a geir yma’n gywir, ni all y Comisiwn Brenhinol nac unrhyw un o’i swyddogion dderbyn cyfrifoldeb dros ganlyniadau unrhyw wall neu fwlch, ac ni dderbynnir unrhyw hawliad am iawndal nac esgeulustod.

Mynediad i’r Safleoedd

Gan nad yw’r mwyafrif o’r safleoedd neu’r adeiladau yn Coflein ar agor i’r cyhoedd, dylid bob amser ofyn i’r tirfeddiannwr neu’r tenant am ganiatâd i ymweld â safle. Gan fod ffotograffau neu luniadau’n cofnodi adeiladau ar adegau penodol, fe all yr adeilad fod wedi’i ddymchwel, neu fe ellir bod wedi newid ei olwg, ers hynny.

Cynhwysir manylion safleoedd arforol yn Coflein (ond gweler ‘Dilysu’). I gael gwybod am ddiogelwch ac am fynediad iddynt, rhaid i ddeifwyr droi at ganllawiau deifio cydnabyddedig. Yn achos llongddrylliadau dynodedig neu safleoedd eraill a warchodir, rhaid cysylltu â Cadw.

Gwarchodir Safleoedd gan y Gyfraith

Caiff llawer o’r safleoedd, yr adeiladau a’r olion arforol eu gwarchod, ac mae’n drosedd eu difrodi. Mae hi hefyd yn drosedd defnyddio canfodydd metel ar Heneb Gofrestredig neu i ddeifio ar longddrylliadau dynodedig heb drwydded. Rhaid i Cadw roi eu caniatâd cyn bod modd newid adeilad rhestredig neu weithio ar Heneb Gofrestredig.

Rheoli’r Datblygu ar Safleoedd Archaeolegol

Nid yw Coflein yn addas ar ei ben ei hun i reoli datblygu neu gasglu gwybodaeth ar gyfer cynlluniau amaeth-amgylcheddol, heb unrhyw gyngor archaeolegol a threfniadau dilysu pellach.

Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth

Mae Coflein yn rhestru llawer o gofnodion yn archif Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, sy’n deillio o waith datblygu a oedd yn effeithio ar Adeiladau Rhestredig, ac mae gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru dîm o staff arbenigol sy’n cydweithio’n agos â Swyddogion Cadwraeth awdurdodau lleol i adnabod adeiladau hanesyddol, ymchwilio iddynt a’u cofnodi. Caiff y cofnodion hynny eu defnyddio’n helaeth ar gyfer astudiaethau lleol ac ymchwil i hanes teuluol ac ar gyfer gwaith dadansoddi pensaernïol manwl. Nid ydynt yn addas ar eu pen eu hunain i gasglu gwybodaeth at ddiben rheoli datblygu, heb unrhyw gyngor a threfniadau dilysu pellach.

Hawlfraint

Cedwir hawlfraint ar Coflein ac ar bob data o CHCC. Gellir defnyddio data at ddibenion ymchwil bersonol yn ddi-dâl, ond rhaid i bob allbwn sy’n deillio o ddefnyddio’r data gydnabod y ffynhonnell fel a ganlyn: Cymerwyd o wybodaeth a gasglwyd gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru a/neu hawlfraint y Goron.

Mae’r deunydd a ddelir o fewn CHCC ac a arddangosir ar Coflein yn gymysgedd o hawlfraint y Goron a hawlfreintiau trydydd parti. Gall y deunydd sydd â hawlfraint y Goron gael ei ddefnyddio ar gyfer astudio preifat neu ar gyfer ymchwil at bwrpas anfasnachol o dan Drwydded Llywodraeth Anfasnachol 1.0.

Bwriedir i Coflein gael ei defnyddio at ddibenion ymchwil bersonol yn unig. Gellir llwytho data i lawr i ddisg neu eu hallbrintio at ddefnydd personol yn unig, ond ni cheir eu gwerthu, eu hailwerthu, neu hurio allan na’u cylchredeg fel arall, at ddibenion masnachol nac fel arall, heb gael caniatâd y Comisiwn Brenhinol ymlaen llaw.

Os dymunwch ddefnyddio gwybodaeth sy’n deillio o Coflein i’w chyhoeddi ar ffurf brintiedig neu amlgyfrwng neu gasglu adnoddau at ddefnydd masnachol neu sefydliadol, rhaid i chi gael caniatâd ar bapur ymlaen llaw.

Gall ffi trwydded gael ei chodi.

Safonau’r Iaith Gymraeg

Rydym wedi derbyn eithriad yn ein hysbysiad cydymffurfio ar gyfer Coflein:

HYSBYSIAD CYDYMFFURFIO – ADRAN 44 MESUR Y GYMRAEG (CYMRU) 2011

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru – Dyddiad Dyroddi: 25/07/2016

Rhif Safon Dosbarth o Safon Safon Diwrnod Gosod
48 Cyflenwi Gwasanaeth Rhaid ichi sicrhau:

(a) bod testun pob tudalen ar eich gwefan ar gael yn Gymraeg,

(b) bod pob tudalen Gymraeg ar eich gwefan yn gweithredu’n llawn, ac

(c) nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg ar eich gwefan.

Rhaid cydymffurfio â safon 48 ym mhob amgylchiad, ac eithrio testun disgrifiadol o gronfa ddata Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC), fel a geir ar wefan Coflein.

25/07/2017