Cymorth

Dyluniwyd Coflein i fod yn hollol hygyrch ar eich ffôn neu dabled. Oherwydd ein hymrwymiad i wella ein gwasanaethau’n barhaus fe fydd mwy o nodweddion gwych yn cael eu cyflwyno, er enghraifft, fe fydd y system fapio’n cael ei gwella yn y dyfodol agos.

Chwilio ein catalog cyfan (Safleoedd ac Archifau) yn ôl allweddair

  1. Defnyddiwch y blwch Chwilio yn hafan Coflein neu cliciwch Chwilio i redeg chwiliad sylfaenol ar draws Safleoedd ac Archifau. Cewch chwilio yn ôl Allweddair, NPRN neu Rif Archif a chaiff yr holl ganlyniadau eu rhestru o dan y tabiau Safleoedd neu Archifau, a fydd yn troi o lwyd tywyll i goch pan fyddant yn weithredol.

Chwiliad Safle Uwch

  1. Cliciwch Chwilio, yna gwnewch y tab Safleoedd yn weithredol drwy glicio arno (mae tab gweithredol yn goch). O dan y blwch chwilio, cliciwch ‘Chwiliad Safle Uwch’.
  2. I ddarganfod yr holl gaerau Rhufeinig ym Mhowys byddwn yn gwneud hyn:
  3. Ychwanegu fy hidlydd cyntaf Beth/Pryd/Ble e.e. Math o Safle = “Caer”
  4. Ychwanegu rhesi Beth/Pryd/Ble pellach i fireinio fy chwiliad ymhellach, e.e. Cyfnod = “Rhufeinig” ac Awdurdod (Lleol) Unedol = “Powys”
  5. Bydd yr holl safleoedd sy’n cyd-fynd â’m hidlyddion yn cael eu dangos o dan y tab Safleoedd.  Os ydw i am weld map dosbarthiad o’r safleoedd hyn, gallaf glicio “Dangos Lleoliadau Safleoedd” a bydd map yn agor sy’n dangos lleoliadau’r safleoedd a ddarganfuwyd gan fy Chwiliad Uwch.

Chwiliad Archif Uwch

  1. Cliciwch Chwilio, yna gwnewch y tab Archifau yn weithredol drwy glicio arno (mae tab gweithredol yn goch). O dan y blwch chwilio, cliciwch ‘Chwiliad Archif Uwch’.
  2. Cewch chwilio yn ôl Enw’r Archif, Disgrifiad, Rhif yr Archif, Dyddiad neu NPRN. Yna cliciwch Chwilio.
  3. Gellir cyfuno’r categorïau hyn drwy ychwanegu rhesi pellach, e.e. rhes 1: Enw’r Archif = R.E. Kay / rhes 2: Disgrifiad = Llantrisant > Chwilio.

Cofnodion Safle

  1. Mae tabiau’n cael eu defnyddio bellach i strwythuro Cofnodion Safle er mwyn sicrhau profiad cyson i ddefnyddwyr ar draws pob dyfais.
  2. Mae map chwyddadwy o leoliad y safle’n cael ei ddangos ar ben y dudalen a gellir chwyddo mewn i hwn i gyrchu manylion bach iawn ar y map Arolwg Ordnans.
  3. Mae pedwar tab o dan y map: Manylion, Delweddau, Cysylltiedig, Archifau.
  4. Mae’r tab Manylion yn dangos disgrifiad o’r safle a’r metadata.
  5. Mae’r tab Delweddau yn gweithio fel oriel o’r holl ddelweddau digidol o safle sydd ar gael. Mae clicio ar unrhyw ddelwedd yn agor syllwr delwedddau chwyddadwy sy’n caniatáu i chi archwilio delweddau’n fanwl iawn. Mae’r botwm toglo tudalen lawn ar ben y sgrin yn caniatáu i chi ddangos/cuddio’r blwch sy’n disgrifio’r ddelwedd. Bydd clicio “Gwybodaeth Bellach” yn y blwch disgrifio delwedd yn mynd â chi at System Rheoli Asedau Digidol (DAMS) Coflein – yn y fan hyn, ar ôl i chi gofrestru, cewch weld, lawrlwytho a thrwyddedu copïau o fwy na 136,000 o ddelweddau, adroddiadau ac asedau digidol eraill a ddelir gan y Comisiwn Brenhinol.
  6. Os oes unrhyw safleoedd cysylltiedig, dangosir y rhain o dan y tab Cysylltiedig.
  7. Rhestrir pob archif sydd wedi’i chatalogio o dan y tab Archifau. Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys Rhif, Teitl, Lefel, Disgrifiad, a Chyfrwng yr eitem archifol. Bydd clicio ar y Rhif Archif yn mynd â chi at fanylion pellach am bob eitem archifol.

Cofnodion Archifol

  1. Mae Coflein yn eich galluogi i chwilio archif Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, a bydd yn dod o hyd i eitemau yn ein casgliadau helaeth.
  2. Dim ond eitemau digidol y gellir eu gweld ar-lein. Gellir gwneud apwyntiad i weld eitemau sydd heb eu digido yn ein Hystafell Ymchwil yn Aberystwyth.
  3. Os yw’r cofnod yn eitem sydd ar gael ar-lein e.e. ffotograff wedi’i ddigido, dangosir hyn uwchben tri thab: Manylion, Hierarchaeth a Safleoedd Cysylltiedig.
    1. Mae’r tab Manylion yn dangos metadata y Cofnod Archifol (Rhif yr Archif, Disgrifiad, Cofnod Casgliad a Chyfrwng).
    1. Mae Hierarchaeth yn dangos safle’r Cofnod Archifol yn yr hierarchaeth archifol (trefnir yr archif yn ôl Casgliad, Grŵp, Is-grŵp, Swp, Eitem).
    1. Os oes cysylltiad rhwng Cofnod Archifol a Chofnod Safle, nodir hyn o dan y tab Safleoedd Cysylltiedig. Bydd clicio ar y rhif NPRN yn mynd â chi at gofnod llawn y safle hwnnw.
    1. Bydd clicio ar y cyswllt “Gwybodaeth Bellach” uwchben y tabiau yn mynd â chi at System Rheoli Asedau Digidol (DAMS) Coflein – yn y fan hyn, ar ôl i chi gofrestru, cewch weld, lawrlwytho a thrwyddedu copïau o fwy na 136,000 o ddelweddau, adroddiadau ac asedau digidol eraill a ddelir gan y Comisiwn Brenhinol.
  4. Os nad oes fersiwn wedi’i ddigido o’r eitem ar gael, dim ond y tabiau fydd i’w gweld. Os hoffech gyrchu eitem archifol, cysylltwch â’n Tîm Llyfrgell ac Ymholiadau drwy ddefnyddio’r Ffurflen Gysylltu a chynnwys y Rhif Archif perthnasol.