Materion Cyfreithiol

Telerau ac Amodau ar gyfer Defnyddio Gwybodaeth o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru

Defnyddio Gwybodaeth o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC)
CHCC yw archif Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC).

Mae cael y Cytundeb hwn a defnyddio deunydd CHCC yn golygu derbyn y telerau a’r amodau hyn a chytuno i gydymffurfio â hwy.

Atgynhyrchu a Thaliadau

CBHC, y Goron neu drwyddedwyr eraill yw perchnogion pob hawl, gan gynnwys hawlfraint a hawliau cronfa-ddata yn y wybodaeth. Os dymunwch Chi ei hatgynhyrchu neu atgynhyrchu unrhyw ran ohoni, neu ei chyhoeddi neu gyhoeddi unrhyw ran ohoni neu drefnu fel arall iddi neu unrhyw ran ohoni fod ar gael neu ei hecsbloetio’n fasnachol neu ecsbloetio unrhyw ran ohoni’n fasnachol, rhaid i Chi wneud cais am ganiatâd i Lyfrgell a Gwasanaeth Ymholiadau CHCC cyn i Chi ei hatgynhyrchu neu ei chyhoeddi o gwbl. Gall fod ffioedd atgynhyrchu i’w talu beth bynnag fo statws hawlfraint y wybodaeth y gofynnwyd amdani. Os yw’n gymwys, gallwn eich cyfeirio Chi at ddeiliad yr hawlfraint berthnasol os nad ydym wedi’n hawdurdodi i roi gwybodaeth ar ran deiliad yr hawlfraint. N.B. Mae data am safleoedd, a gedwir ar Coflein a phorth Cymru Hanesyddol, ar gael am ddim dan y Drwydded Llywodraeth Agored.

Aseinio
Nid oes modd aseinio, trosglwyddo nac is-drwyddedu’ch hawliau o dan y Cytundeb hwn heb i chi gael caniatâd ysgrifenedig CHCC ymlaen llaw.

Torri
Cymerir bod methiant gennych Chi i gydymffurfio â thelerau’r Cytundeb hwn yn gyfystyr â’u torri, a bydd yn arwain at derfynu’r Cytundeb ar unwaith. Os yw’n briodol, gall y Comisiwn Brenhinol fynnu iawndal gennych Chi a/neu fynnu’ch bod yn dychwelyd unrhyw Wybodaeth sydd wedi’i chyflenwi o dan y Cytundeb hwn.

Ymwadiad

Nid yw CBHC yn rhoi unrhyw warant mewn cysylltiad â’r wybodaeth a roir i Chi yn unol â’r Cytundeb hwn, gan gynnwys mewn perthynas â’i chyflawnrwydd a/neu ei manwl-gywirdeb. Ni ellir dal CBHC yn gyfrifol am unrhyw benderfyniad a wneir gan ddibynnu ar y wybodaeth.

Awdurdodaeth
Daw’r Cytundeb hwn o dan gyfreithiau Cymru a Lloegr a bydd yn ddarostyngedig i awdurdodaeth lwyr llysoedd Cymru a Lloegr.

Safonau’r Gymraeg

Gan ein bod ni’n defnyddio cymaint o destun o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru i ddarparu disgrifiadau ar Coflein, buom yn gweithio gyda Chomisiynydd yr Iaith i gytuno ar ffordd ymlaen.

Mae’r Comisiynydd yn cydnabod bod y testun disgrifiadol wedi bod yn cael ei greu yn Saesneg ers i ni ddechrau cofnodi safleoedd, ac y byddai cynnig disgrifiadau dwyieithog yn afresymol ac anghymesur o ystyried nifer y cofnodion a faint o destun y byddai angen ei gyfieithu. Felly rydym wedi derbyn eithriad mewn perthynas â gwefannau yn ein hysbysiad cydymffurfio ar gyfer Safon Gymraeg 48 (gweler ein hysbysiad cydymffurfio yn https://rcahmw.gov.uk/wp-content/uploads/2017/01/20170508-Hysbysiad-Cydymffurfio44-Comisiwn-Brenhinol-Henebion-Cymru-cy.pdf).
Serch hynny, rydym yn bwriadu cynyddu nifer y disgrifiadau dwyieithog ar Coflein, er enghraifft drwy waith prosiect wedi’i gyllido.

Hawlfraint

Diogelir yr holl ddeunydd ar y wefan hon gan hawlfraint.

Gall deunydd sydd â hawlfraint y Goron gael ei ddefnyddio ar gydraniad isel o dan Drwydded Llywodraeth Anfasnachol. Mae’r data safle ar Coflein a Cymru Hanesyddol ar gael am ddim dan Trwydded Llywodraeth Agored.

Rhaid i bob deunydd a ddefnyddir o dan y drwydded hon gael ei gydnabod fel a ganlyn: © Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Os hoffech chi ddefnyddio deunydd ar y wefan hon neu unrhyw wybodaeth neu ddelwedd arall o’n harchif at ddibenion masnachol, ewch i https://rcahmw.ibase.media/cy/. O dan rai amgylchiadau gellir codi ffi.

Daw peth o’r deunydd ar y wefan o dan hawlfraint a ddelir gan eraill, a gall fod angen i’r Comisiwn Brenhinol anfon ceisiadau i’w atgynhyrchu ymlaen at ddeiliad penodol yr hawlfraint i gael ei ganiatâd hwythau. Os hoffech wybod rhagor, cysylltwch â ni.

Ni cheir atgynhyrchu’r cyfan na rhan o logo’r Comisiwn Brenhinol heb gael caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw.

Gall y Comisiwn Brenhinol dynnu’n ôl unrhyw ganiatâd i lwytho delweddau neu ddeunydd i lawr o’r wefan hon, neu ei atgynhyrchu, os defnyddir y deunydd mewn ffordd sydd, yn ein barn ni, yn niweidiol, neu a allai fod yn niweidiol, i enw da Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Diogelir dyluniad, graffigwaith a threfniant pob un o’r lluniau a’r testun yn y wefan gan hawlfraint sy’n eiddo i CBHC, darparwyr ei chynnwys neu ei darparwyr technegol.