Termau

Enw’r Safle

Enw safle, adeilad neu nodwedd.

Manylion y Safle

Y wybodaeth sydd yn Coflein am y safle. Mae’n cynnwys lleoliad y safle, ei NPRN (cyfeirnod unigryw’r safle), y math o safle, cyfnod y safle a disgrifiad o’r safle.

Lluniau Digidol

Lluniau ar-lein sy’n gysylltiedig â’r cofnod ac ar gael i’w gweld a’u llwytho i lawr.

Cofnodion o’r Archif

Eitemau o’r archif, neu gasgliadau o gofnodion, yn archif y Cofnod Henebion Cenedlaethol ac wedi’u cysylltu’n uniongyrchol â’r safle.

Safleoedd Cysylltiedig

Safleoedd eraill yn y Cofnod Henebion Cenedlaethol sydd â chysylltiad uniongyrchol â’r safle.

NPRN

Mae’r Rhif Cofnodi Sylfaenol Cenedlaethol (NPRN) yn gyfeirnod unigryw i bob safle yn ein cronfa ddata ni.

Cyfeirnod Map

Dalen chwarter yr Arolwg Ordnans (1:10,000) y mae’r safle wedi’i nodi arno.

Cyfeirnod Grid (Cyfeirnod Grid Cenedlaethol – NGR)

Cyfeirnod map sy’n cynnwys dwyreiniaid a gogleddiaid sy’n dynodi lleoliad y safle. Mae modd gosod cyfeirnod map 10-ffigur o fewn y Grid Cenedlaethol gan ddiffinio lleoliad hyd at fanwl-gywirdeb o fetr (e.e. SH5809531245).

Yr Awdurdod Unedol (Lleol)

Y diriogaeth weinyddol gyfredol y mae’r safle ynddi yn dilyn ad-drefnu Llywodraeth Leol ym 1996.

Yr Hen Sir

Yr hen sir y mae’r safle ynddi. Seilir y rhestr o siroedd ar y ffiniau a ddefnyddid cyn ad-drefnu Llywodraeth Leol ym 1974.

Cymuned

Y cyngor cymuned lleol neu’r cyngor tref lleol y mae’r safle yn ei diriogaeth fel y’i sefydlwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Y Math o Safle

Y math o safle, adeilad neu nodwedd. I weld rhestr lawn o’r mathau hynny, ewch i’n Thesawrws o Fathau o Henebion (link).

Dosbarth Bras

Dosbarthiad bras, sydd fel rheol yn adlewyrchu swyddogaeth y safle, ar sail y math o safle (gweler Math o Safle).

Cyfnod

Mae’n dynodi’r cyfnod archaeolegol pryd y crëwyd neu y meddiannwyd y safle. Yn achos llongddrylliadau a gweddillion awyrennau, mae ‘cyfnod’ yn dynodi pryd y drylliwyd y llong neu’r awyren.

Disgrifiad

Mae’r disgrifiad cyffredinol o’r safle yn rhoi crynodeb hanesyddol byr ohono ac yn cynnig cyfeiriadau a ffynonellau ar gyfer darllen pellach.

Rhif Catalog

Cyfeirnod unigryw ar gyfer pob eitem mewn casgliad yn ein cronfa ddata.

Cofnod y Casgliad

Enw’r casgliad y mae’r rhif catalog unigol yn rhan ohono.

Disgrifiad (Cofnodion yn yr Archifau)

Mae’n rhoi disgrifiad byr o’r cofnod sydd yn yr archifau.

Cyfrwng

Mae’n manylu ar ffurf y deunydd sydd yn yr archif, megis testun, cartograffig, ffotograff ac ati.