Materion Cyfreithiol
Telerau ac Amodau ar gyfer Defnyddio Gwybodaeth o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru
Defnyddio Gwybodaeth o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC)
CHCC yw archif Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC).
Mae cael y Cytundeb hwn a defnyddio deunydd CHCC yn golygu derbyn y telerau a’r amodau hyn a chytuno i gydymffurfio â hwy.
- Caiff yr holl wybodaeth a ddarperir o CHCC ei chyflenwi gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn unol â thelerau ac amodau’r Cytundeb hwn i’r unigolyn, y sefydliad neu’r cwmni (“Chi”), at ddibenion mewnol neu ymchwil breifat. Fe’i cyflenwir yn unol â safonau gwasanaethu a thelerau talu CHCC (mae’r taflenni gwybodaeth a’r rhestri prisiau ar gael drwy wneud cais amdanynt, neu ewch i’n website https://cbhc.gov.uk/gwasanaethau/gwasanaethau-ymholiadau/.
- Mae’r deunydd a ddelir o fewn CHCC yn gymysgedd o hawlfraint y Goron a hawlfreintiau trydydd parti. Gall y deunydd sydd â hawlfraint y Goron gael ei ddefnyddio ar gyfer astudio preifat neu at bwrpas anfasnachol o dan y Drwydded Llywodraeth Anfasnachol. Dylid ei gydnabod fel a ganlyn: ‘Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru: rhif archif’. Mae’n bosibl y bydd angen cael caniatâd deiliad yr hawlfraint ar gyfer deunydd trydydd parti.
- Ni chewch gopïo, cyhoeddi na threfnu fel arall i wybodaeth a gyflenwyd o CHCC o dan y Cytundeb hwn fod ar gael heb ganiatâd ysgrifenedig CHCC, p’un a yw’r wybodaeth a gyflenwyd yn ddeunydd hawlfraint neu beidio.
- Ni cheir newid na manipwleiddio deunydd heb gael cydsyniad ysgrifenedig CHCC ymlaen llaw.
- Ni chaiff deunydd, drwy fasnach neu fel arall, gael ei roi ar fenthyg, ei werthu, ei ailwerthu, ei logi allan na’i gylchredeg fel arall i drydydd parti heb gael caniatâd ysgrifenedig CHCC ymlaen llaw.
- Rhaid i’r wybodaeth beidio â chael ei defnyddio at ddibenion a all arwain at ddifrodi safleoedd archaeolegol, adeiladau hanesyddol a thirweddau.
Atgynhyrchu a Thaliadau
CBHC, y Goron neu drwyddedwyr eraill yw perchnogion pob hawl, gan gynnwys hawlfraint a hawliau cronfa-ddata yn y wybodaeth. Os dymunwch Chi ei hatgynhyrchu neu atgynhyrchu unrhyw ran ohoni, neu ei chyhoeddi neu gyhoeddi unrhyw ran ohoni neu drefnu fel arall iddi neu unrhyw ran ohoni fod ar gael neu ei hecsbloetio’n fasnachol neu ecsbloetio unrhyw ran ohoni’n fasnachol, rhaid i Chi wneud cais am ganiatâd i Lyfrgell a Gwasanaeth Ymholiadau CHCC cyn i Chi ei hatgynhyrchu neu ei chyhoeddi o gwbl. Gall fod ffioedd atgynhyrchu i’w talu beth bynnag fo statws hawlfraint y wybodaeth y gofynnwyd amdani. Os yw’n gymwys, gallwn eich cyfeirio Chi at ddeiliad yr hawlfraint berthnasol os nad ydym wedi’n hawdurdodi i roi gwybodaeth ar ran deiliad yr hawlfraint. N.B. Mae data am safleoedd, a gedwir ar Coflein a phorth Cymru Hanesyddol, ar gael am ddim dan y Drwydded Llywodraeth Agored.
Aseinio
Nid oes modd aseinio, trosglwyddo nac is-drwyddedu’ch hawliau o dan y Cytundeb hwn heb i chi gael caniatâd ysgrifenedig CHCC ymlaen llaw.
Torri
Cymerir bod methiant gennych Chi i gydymffurfio â thelerau’r Cytundeb hwn yn gyfystyr â’u torri, a bydd yn arwain at derfynu’r Cytundeb ar unwaith. Os yw’n briodol, gall y Comisiwn Brenhinol fynnu iawndal gennych Chi a/neu fynnu’ch bod yn dychwelyd unrhyw Wybodaeth sydd wedi’i chyflenwi o dan y Cytundeb hwn.
Ymwadiad
Nid yw CBHC yn rhoi unrhyw warant mewn cysylltiad â’r wybodaeth a roir i Chi yn unol â’r Cytundeb hwn, gan gynnwys mewn perthynas â’i chyflawnrwydd a/neu ei manwl-gywirdeb. Ni ellir dal CBHC yn gyfrifol am unrhyw benderfyniad a wneir gan ddibynnu ar y wybodaeth.
Awdurdodaeth
Daw’r Cytundeb hwn o dan gyfreithiau Cymru a Lloegr a bydd yn ddarostyngedig i awdurdodaeth lwyr llysoedd Cymru a Lloegr.
Safonau’r Gymraeg
Gan ein bod ni’n defnyddio cymaint o destun o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru i ddarparu disgrifiadau ar Coflein, buom yn gweithio gyda Chomisiynydd yr Iaith i gytuno ar ffordd ymlaen.
Mae’r Comisiynydd yn cydnabod bod y testun disgrifiadol wedi bod yn cael ei greu yn Saesneg ers i ni ddechrau cofnodi safleoedd, ac y byddai cynnig disgrifiadau dwyieithog yn afresymol ac anghymesur o ystyried nifer y cofnodion a faint o destun y byddai angen ei gyfieithu. Felly rydym wedi derbyn eithriad mewn perthynas â gwefannau yn ein hysbysiad cydymffurfio ar gyfer Safon Gymraeg 48 (gweler ein hysbysiad cydymffurfio yn https://rcahmw.gov.uk/wp-content/uploads/2017/01/20170508-Hysbysiad-Cydymffurfio44-Comisiwn-Brenhinol-Henebion-Cymru-cy.pdf).
Serch hynny, rydym yn bwriadu cynyddu nifer y disgrifiadau dwyieithog ar Coflein, er enghraifft drwy waith prosiect wedi’i gyllido.
Hawlfraint
Cedwir hawlfraint ar Coflein ac ar yr holl ddata o CHCC. Mae hynny’n cynnwys ein data digidol am safleoedd, a’r cofnodion archif yn Archif CHCC, boed yn rhai digidol neu’n rhai ar ffurf copi caled.
Mae’r cofnodion archif a gaiff eu cadw yn Archif CHCC a’u harddangos ar Coflein yn gymysgedd o hawlfraint y Goron a hawlfreintiau trydydd parti. Gall y deunydd â hawlfraint y Goron sydd yn Archif CHCC gael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith astudio preifat neu waith ymchwil at bwrpas anfasnachol dan Drwydded Llywodraeth Anfasnachol 1.0.
Gall ein data digidol am safleoedd, sydd ar gael drwy Coflein, gael ei lawrlwytho o Fap Data Cymru a gellir ei ddefnyddio dan Fersiwn 2.0 y Drwydded Llywodraeth Agored, sy’n caniatáu ailddefnyddio’r data at bwrpas masnachol.
Rhaid i bob allbwn sy’n deillio o ddefnyddio’r data digidol am safleoedd neu’r cofnodion archif, p’un a ydynt ar gael dan Drwydded Llywodraeth Anfasnachol 1.0 neu’r Drwydded Llywodraeth Fasnachol 2.0, gydnabod y ffynhonnell fel a ganlyn: Cymerwyd o wybodaeth a gasglwyd gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru a/neu hawlfraint y Goron.
Os ydych yn dymuno defnyddio cofnodion archif o Archif CHCC, a gafwyd o Coflein, i’w cyhoeddi mewn print neu ar ffurf amlgyfrwng neu os ydych yn dymuno casglu adnoddau at ddefnydd masnachol neu sefydliadol, rhaid i chi gael caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw. Gellir codi ffi am drwydded.
Daw peth o’r deunydd ar y wefan o dan hawlfraint a ddelir gan eraill, a gall fod angen i’r Comisiwn Brenhinol anfon ceisiadau i’w atgynhyrchu ymlaen at ddeiliad penodol yr hawlfraint i gael ei ganiatâd hwythau. Os hoffech wybod rhagor, cysylltwch â ni.
Ni cheir atgynhyrchu’r cyfan na rhan o logo’r Comisiwn Brenhinol heb gael caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw.
Gall y Comisiwn Brenhinol dynnu’n ôl unrhyw ganiatâd i lwytho delweddau neu ddeunydd i lawr o’r wefan hon, neu ei atgynhyrchu, os defnyddir y deunydd mewn ffordd sydd, yn ein barn ni, yn niweidiol, neu a allai fod yn niweidiol, i enw da Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Diogelir dyluniad, graffigwaith a threfniant pob un o’r lluniau a’r testun yn y wefan gan hawlfraint sy’n eiddo i CBHC, darparwyr ei chynnwys neu ei darparwyr technegol.