Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Plas Newydd, Llangollen

Loading Map
NPRN27760
Cyfeirnod MapSJ24SW
Cyfeirnod GridSJ2181841719
Awdurdod Unedol (Lleol)Denbighshire
Hen SirDenbighshire
CymunedLlangollen
Math O SaflePLASTY GWLEDIG
CyfnodÔl-Ganoloesol
Disgrifiad
Dechreuodd y t? hwn gyda'i gerfwaith coed cyfoethog fel bwthyn cerrig syml, deulawr o'r enw Pen y Maes, a oedd yn tystio i'w leoliad ym mhen draw cae y tu allan i Langollen. Yn 1778 fe wnaeth y Ladis, Sarah Ponsonby (1755-1831) ac Eleanor Butler (1739-1829) rentu'r bwthyn a'i ail-enwi'n Plas Newydd.

Er iddynt ddod yn adnabyddus fel 'Ladis Llangollen', o Iwerddon y deuai Sarah ac Elearnor yn wreiddiol. Ar ol iddynt gyfarfod gyntaf yn 1768, fe wnaethant ffurfio perthynas glos a gwneud cynlluniau i ddianc oddi wrth eu teuluoedd. Methiant fu eu hymgais gyntaf i ddianc yn y nos yn 1778. Wedi'u gwisgo mewn dillad dynion, yn cario gwn a chyda Mary Carryll, morwyn Eleanor yn gwmni iddynt, cawsant eu stopio yn Waterford. Oherwydd iddynt fynnu na fyddent byth yn rhoi'r gorau i'w ceisiadau i redeg i ffwrdd, fe wnaeth eu teuluoedd ildio o'u hanfodd i'w dymuniadau yn y diwedd. Ar ol crwydro drwy Ogledd Cymru, ymgartrefodd y Ladis a'u morwyn yn y diwedd ym Mhlas Newydd, ymhell o fywyd trefol ffasiynol.

Prin oedd eu harian eu hunain, a dibynnai'r Ladis i raddau helaeth ar ewyllys da a chefnogaeth cyfeillion. Dros amser fe wnaethant gasglu llyfrgell, gohebu'n helaeth, ac yn raddol adnewyddu a helaethu eu t? a'r gerddi o'i amgylch. Trawsnewidiwyd Plas Newydd yn yr arddull Gothig drwy osod bwau, ffenestri lliw a cherfiadau pren addurniedig, yn ogystal ag addurno eu gardd gyda'r fedyddfan o adfeilion Abaty Glyn y Groes gerllaw.

Er eu bod yn byw ar y cyrion i raddau helaeth, roedd gan y Ladis fywyd cymdeithasol prysur ac roeddent yn uchel eu parch ymysg trigolion Llangollen. Gan fod Llangollen ar un o'r llwybrau twristaidd cynharaf i Gymru, dechreuodd eu henwogrwydd rhyngwladol cynyddol dynnu mwy a mwy o ymwelwyr i'r t?. Yn 1809 cafodd y wraig fonheddig a'r ffoadur o Ffrainc, Madame Genlis, ei chadw'n effro'r nos gan y delyn Aeolaidd yr oedd y Ladis wedi'i gosod y tu allan i'r ffenestr ac, yn 1828, treuliodd y Tywysog Almaenig Puckler-Muskau brynhawn gyda hwy, ar ol clywed gyntaf amdanynt pan oedd yn blentyn ddeng mlynedd ar hugain yn gynt.

Ar ei marwolaeth yn 1809, gadawodd Mary Carryll gae Aberadda i'r Ladis. Roedd Mary wedi prynu'r cae gyda'i chynilion oes a daliodd y Ladis ati i'w ffermio i gael incwm bychan. Fel arwydd o'u parch ati, cododd y Ladis gofeb iddi ym mynwent Llangollen ac fe'u claddwyd hwythau yn yr un bedd yn ddiweddarach.

Ar ol eu marw, daliodd y t? i gael ei ddatblygu gan berchenogion diweddarach. Ychwanegodd y Cadfridog York yr addurn du a gwyn i'r ffasad, a hefyd ychwanegwyd yr esgyll dwyreiniol a gorllewinol sydd wedi eu dymchwel bellach.

Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.
Adnoddau
LawrlwythoMathFfynhonnellDisgrifiad
application/pdfETW - European Travellers to Wales ProjectDescription of a visit to Plas Newydd, Llangollen, by Hermann von P?ckler-Muskau, from 'Briefe eines Verstorbenen' (1828). Text available in Welsh, English, French and German. Produced through the European Travellers to Wales project.