Carmarthen

Loading Map
NPRN33058
Cyfeirnod MapSN41NW
Cyfeirnod GridSN4126619993
Awdurdod Unedol (Lleol)Carmarthenshire
Hen SirSir Gaerfyrddin
CymunedCarmarthen
Math O SafleTREF
CyfnodCyfredinol
Disgrifiad
Mae gwreiddiau tref Caerfyrddin, ar afon Tywi, yn mynd yn ol i gaer Rufeinig Moridunum, a adeiladwyd yn 75Oc. Mae gwaith cloddio yno wedi datgelu gweddillion adeiladau dinesig ac amffitheatr.

Yn ol y traddodiad Cymreig, enwyd y dref ar ol Myrddin, a oedd yn nodedig am ei farddoniaeth broffwydol. Mae'n debygol mai ef sydd tu ol i ffigwr Myrddin yn y chwedl Arthuraidd. Yn ei lyfr, Brut y Brenhinedd, a ysgrifennwyd yn 1138, honnodd Sieffre o Fynwy, mai yng Nghaerfyrddin y ganwyd Myrddin.

Mae'r Afon Tywi, sy'n llifo heibio'r dref, yn nodedig am ei physgotwyr cwryglau. Cwch bychan o wiail, wedi'u goruchuddio a chynfas, yw'r cwrwgl. Lle i un sydd ynddo a rhaid iddo fod yn ddigon ysgafn i'w gario. Mae disgrifiadau a darluniau o'r cychod bychain hyn yn mynd yn ol cyn belled a'r ddeuddegfed ganrif.

Yn y cyfnod Rhamantaidd, daeth parhad eu defnydd gan y pysgotwyr lleol i gael ei ystyried yn ryfeddod hanesyddol. Talodd twristiaid fel y newyddiadurwr Almaenaidd, Francis Broemel, deyrnged i fedrusrwydd mawr pysgotwyr cwryglau Caerfyrddin: mae llywio'r cychod bychain, dal pysgod a dychwelyd yn ddiogel i dir sych yn edrych yn llawer haws nag ydyw mewn gwirionedd! Dim ond ychydig o bysgotwyr cwrwgl sy'n gweithredu yng Nghaerfyrddin heddiw ond, wedi blynyddoedd o ymgyrchu caled, fe wnaeth y Comisiwn Ewropeaidd gydnabod eu crefft yn 2017, a chafodd sewin (math o frithyll) a ddelir o gwryglau statws Enw Bwyd Gwarchodedig.

Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.
Adnoddau
LawrlwythoMathFfynhonnellDisgrifiad
application/pdfFAPA - Foundations Archaeology Projects ArchiveFoundations Archaeology Report No 975 "Land east of 14 Merlin Street, Carmarthen. Archaeological Watching Brief" June 2014.
application/pdfCAP - Cambrian Archaeological Projects ArchiveElectronic report: Archaeological Evaluation Report relating to Tenby Road Service Station, Carmarthen. CAP Report Number 605.
application/pdfETW - European Travellers to Wales ProjectDescription of a visit to Denbigh by Franz von L?her from 'Wanderung durch Nordwales' (1846). Text available in Welsh, English, French and German. Produced through the European Travellers to Wales project.
application/pdfETW - European Travellers to Wales ProjectDescription of a visit to Carmarthen by Franz Br?mel from 'Nordland-Fahrten. Zweite Abteilung' (c. 1870). Text available in Welsh, English, French and German. Produced through the European Travellers to Wales project.