Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Pwll Melyn, Site Of Battle, Usk

Loading Map
NPRN402320
Cyfeirnod MapSO30SE
Cyfeirnod GridSO3784001270
Awdurdod Unedol (Lleol)Monmouthshire
Hen SirSir Fynwy
CymunedUsk
Math O SafleSAFLE BRWYDR
CyfnodCanoloesol
Disgrifiad
I daflu goleuni ar ystyriaeth o'r Rhestr o Feysydd Brwydro Hanesyddol yng Nghymru, cynhaliwyd rhaglen gam wrth gam o ymchwilio i frwydr Pwll Melyn. Mae adroddiadau manwl ar yr ymchwiliadau hyn ar gael ac yn cynnwys ymchwil hanesyddol a dogfennol (Border Archaeology), a chyfnod o waith heb fod yn ymyrryd a'r safle. (Archaeoleg Cymru).

Ymdrinnir a brwydr Brynbuga mewn sawl cronicl Cymraeg, Saesneg ac Albanaidd o'r cyfnod (Border Archaeology). Mae'r adroddiad lle ceir y mwyaf o wybodaeth wedi?i gynnwys yng nghronicl Adam o Frynbuga:

'Ymosododd Gruffydd, mab hynaf Owen, ar gastell Brynbuga gyda llu mawr ar ?yl Sant Gregori ? awr ddrwg iddo; fodd bynnag yr oedd yr amddiffynfeydd yno wedi eu cryfhau yn sylweddol, ac yr oedd yr Arglwydd Grey o Codnor, Syr John Greyndour a llawer mwy o filwyr y Brenin yno, ac aethant allan mewn nerth o'r Castell a?i gipio ef a?i w'r, gan eu gyrru yn ddidostur ar draws Afon Gwy, lle y lladdwyd llawer ohonynt ? abad Llantarnam yn fwyaf nodedig ? un ai a chledd neu drwy foddi yn yr afon, drwy Goed y Mynach, lle daliwyd Gruffydd ei hun, ac ymlaen i fynyddoedd Gwent Uwch Coed. Ymhlith y rhai a ddaliwyd yn fyw, dienyddiwyd tri chant o flaen y castell, ger Ponfald, er yr anfonwyd rhai o'r mwyaf bonheddig ohonynt, gan gynnwys Gruffydd, yn garcharorion i'r Brenin' (Given-Wilson, 212-3).

Gellir lleoli safle brwydr Pwll Melyn yn weddol gadarn ar sail tystiolaeth archaeolegol a dogfennol, ar dir uwch tua'r gogledd a'r gogledd ddwyrain o Gastell Brynbuga. Yr enw ar yr ardal hon oedd `Mynydd Pwll Melyn?, ym Mlwyddnodau Owain Glyndwr (Livingstone a Bollard, 9174-5) a chredir fod pwll sydd yno o hyd (a elwir bellach yn Castle Oak pond) yn SO 3784 0127 yn ddarn sydd yn weddill o'r pwll, er ei fod bellach wedi newid. Yr oedd y pwll wedi?i leoli mewn dol fawr, ond erbyn hyn mae tai modern yn ei amgylchynu. Nododd hynafiaethwyr lleol y canfuwyd `ysgerbydau lawer? pan sgwriwyd y pwll yn yr 1850au (Border Archaeology).

Mae posibilrwydd fod olion archaeolegol cysylltiedig a'r frwydr wedi goroesi yn agos iawn at y castell lle dienyddiwyd 300 o garcharorion Cymreig. Yn ol Adam o Frynbuga, roedd safle'r dienyddio `ger Ponfald o flaen y castell? a gellid cysylltu hyn a safle `ffald (pownd) y dref? yn Sgwar Twyn (SO 3776 0092) neu yn union i'r de o'r castell, yn fras yn yr ardal rhwng Heol Porthycarne a Castle Parade (SO 3768 0095) (Border Archaeology)

Mae plac yn cofnodi'r frwydr i?w weld ar graig yn Castle Farm (SO 3771 0168).

CBHC, Ionawr 2017

Llyfryddiaeth
Archaeology Wales, 1405 Battle of Pwll Melyn: Battlefield Survey (2014).
Border Archaeology, Pwll Melyn (1405): Documentary and Historical Research Report (2009).
Livingston, Michael and Bollard, John K. (eds) Owain Glynd'r A Casebook (Liverpool University Press, 2013).
Adnoddau
LawrlwythoMathFfynhonnellDisgrifiad
application/pdfAWP_309_03_02 - Archaeology Wales Project ArchivesFinal report on Pwll Melyn battlefield, produced in March 2014. Report no. 1208. Part of the Welsh Battlefield Metal Detector Survey, carried out by Archaeology Wales, 2012-2014. Project code: 2041 - WBS/12/SUR.