Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Painscastle;castell Paen, Site Of Battle

Loading Map
NPRN402326
Cyfeirnod MapSO14NE
Cyfeirnod GridSO1660046000
Awdurdod Unedol (Lleol)Powys
Hen SirRadnorshire
CymunedPainscastle
Math O SafleSAFLE BRWYDR
CyfnodCanoloesol
Disgrifiad
I oleuo ystyriaeth o'r Rhestr o Feysydd Brwydro Hanesyddol yng Nghymru, cynhaliwyd rhaglen archwilio gam wrth gam ar frwydr Castell Paen (Painscastle) 1198. Mae adroddiadau manwl o'r archwiliadau hyn ar gael ac yn cynnwys ymchwil ddogfennol a hanesyddol (Border Archaeology), a gwaith maes heb fod yn ymyrryd ac a oedd yn ymyrryd (Archaeoleg Cymru 2012 a 2013).

Gellir edrych ar frwydr Castell Paun yng nghyd-destun yr ymdrech hirfaith am reolaeth dros y Mers Canol (sef cantrefi Elfael, Cedewain a Maelienydd) rhwng arglwydd Eingl-Normanaidd y Mers yn benodol teuluoedd Mortimer a de Braose) a'r tywysogion cynhenid Cymreig, a ddwysaodd yn dilyn marwolaeth arglwydd Cymreig grymus y Deheubarth, Rhys ap Gruffydd, ym mis Ebrill 1197.

Mae'r Cronicon de Wallia yn nodi, oddeutu 22ain Gorffennaf 1198 y bu i Gwenwynwyn gynnull byddin sylweddol ac yna gorymdeithio ar ei union i Gastell Paun (Castellum Paen) gan osod gwarchae arno (heb beiriannau gwarchae) am dair wythnos (Remfry 2007, 233). Yr oedd y castell, a oedd ym meddiant William de Braose, yn allweddol bwysig, gan ei fod yn rheoli dyffryn Bachawy a oedd yn strategol bwysig, un o'r prif byrth rhwng Lloegr a chanolbarth Cymru, ac a oedd yn gweithredu fel canolfan weinyddol arglwyddiaeth a oedd yn cwmpasu cwmwd Cymreig Elfael Is Mynydd.

Methwyd datrys y gwrthdaro?n heddychlon, ac aeth Geoffrey fitz Peter, olynydd Hubert Walter fel Prif Ustus Lloegr ati i gynnull byddin i achub y castell. Mae'r adroddiadau llawnaf o'r frwydr a ddilynodd wedi?u cynnwys mewn dau gronicl Saesneg, yr Ymagines Historiarum (Delweddau Hanes) gan Ralph de Diceto, deon of Eglwys St Paul's (fl. c.1152-1202) sy?n dyddio'r digwyddiad ar 13eg Hydref 1198 a'r Chronica of Roger of Howden (fl. 1174-1201) sy?n nodi:

'quo cum venisset, commisit praelium campestre cum predicto Wenhuwin et suis; et licet plurimi Walanorum armati essent, tamen non valentes resistere exercitui Anglorum, versi sunt in fugam, et projicientes arma sua, ut levius citiusque fugerunt, occisi sunt ex illis plusquam tria milia et septingenti, exceptis retentis et illis qui lethaliter vulnerati evaserunt a campo' (Stubbs, 53).

Cyfieithiad: 'er bod y Cymry arfog yn niferus iawn, ond yn dal i fethu a gwrthsefyll lluoedd y Saeson, gyrrwyd hwy ar ffo, a chan daflu eu harfau, er mwyn iddynt symud yn gyflymach drwy gario llai o faich, lladdwyd dros 3700 ohonynt, ar wahan i'r rhai a gipiwyd a'r rhai, wedi iddynt gael eu hanafu?n farwol, a ddihangodd o'r maes' (Stubbs, 53).

Mae'r Cronicon de Wallia a'r Brutiau yn rhestru arweinwyr y Cymry a laddwyd yn ystod y frwydr fel Anarawd ap Einion, Owain Cascob ap Cadwallon, Rhiryd ap Iestyn a Robert ap Hywel.

Mae ffynonellau'r croniclau Cymraeg a Saesneg yn gosod lleoliad y frwydr yng nghyffiniau'r castell (SO 1662 4615, Heneb Restredig RD006), fodd bynnag, mae?n anodd sefydlu'r union leoliad. Nid yw lleoliad y frwydr wedi?i farcio ar fapiau hanesyddol yr Arolwg Ordnans, fodd bynnag, mae'r map modern OS 1:25,000 yn lleoli'r frwydr yn benodol yn y cae sydd yn union i'r de-orllewin o gloddwaith y castell (SO 1654 4606), er na wyddys ar ba awdurdod.

Dywedir i esgyrn gael eu canfod i'r de o'r castell ger fferm Rhydlydan (Remfry 1996, 31-32 & Archaeoleg Cymru 2012), er nad oes unrhyw gofnod archaeolegol am y darganfyddiadau. Mae'r rhyd yn Rhydlydan (SO 1667 4570) hefyd wedi?i hawgrymu fel lleoliad y frwydr yng nghyswllt darganfod cleddyf hynafol a phelen canon (Dawson, 51). Yn 2012 a 2013 cynhaliwyd rhaglen gam wrth gam o archwilio yn cynnwys dadansoddiad LiDAR, arolygon gwrthedd geoffisegol, arolwg gyda synwyryddion metelau (metal detector) a gwnaed gwaith cloddio mewn ardaloedd o gwmpas fferm Rhydlydan. Ni chanfuwyd unrhyw nodweddion y gellid eu cysylltu a bwydr 1198 (Archaeoleg Cymru, 2012 a 2013).

CBHC, Ionawr 2017

Llyfryddiaeth
Archaeology Wales, 1198 Battle of Painscastle, Powys: Battlefield Survey (2012).
Archaeology Wales, 1198 Battle of Painscastle, Powys: Battlefield Survey and Excavation (2013).
Border Archaeology, Painscastle (13 August 1198): Documentary and Historical Research Report (2009).
Dawson, M. L., `Painscastle and its Story?, Archaeologia Cambrensis 78 (1923), 51.
Remfry, Paul M. Annales Cambriae: A Translation of Harleian 3859: PRO E. 164/1: Cottonian Domitian, A1: Exeter Cathedral Library MS.3514 and MS Exchequer DB Neath, PRO E. 164/1 (Castle Studies Research, 2007).
Remfry, Paul M., A Guide to Castles in Radnorshire (Logaston, 1996).
Stubbs, W. (ed), Chronica Magistri Rogeri de Hoveden (4 vols; London,1868-71), IV, 53
Adnoddau
LawrlwythoMathFfynhonnellDisgrifiad
application/pdfAWP - Archaeology Wales Project ArchivesReport on Battlefield Survey of Painscastle, produced by Chris E. Smith in March 2013. Report no. 1111. Part of Phase Two of the Welsh Battlefield Metal Detector Survey, carried out by Archaeology Wales, 2012-2014. Project code: 2041 - WBS/12/SUR.
application/vnd.ms-excelAWP_309_01_01 - Archaeology Wales Project ArchivesList of finds from Painscastle battlefield. Finds discovered during the Welsh Battlefield Metal Detector Survey, carried out by Archaeology Wales, 2012-2014. Project code: 2041 - WBS/12/SUR.