Hygyrchedd

Font Size cy

100% 150% 200%

background colour cy

cy Cyferbynnedd
Cau Ailosod

PLAS NEWYDD; HOUSE OF THE LADIES OF LLANGOLLEN, BUTLER HILL, LLANGOLLEN

Manylion y Safle

© Copyright and database right 2019. All rights reserved. Ordnance Survey licence number 0100022206

NPRN 27760

Cyfeirnod Map SJ24SW

Cyfeirnod Grid SJ2181841719

Awdurdod Lleol Sir Ddinbych 

Hen Sir Dinbych

Cymuned Llangollen

Math o Safle PLASTY GWLEDIG

Dosbarth Cyffredinol DOMESTIG

Cyfnod Ôl-Ganoloesol

Disgrifiad o´r Safle Dechreuodd y tŷ hwn gyda'i gerfwaith coed cyfoethog fel bwthyn cerrig syml, deulawr o'r enw Pen y Maes, a oedd yn tystio i'w leoliad ym mhen draw cae y tu allan i Langollen. Yn 1778 fe wnaeth y Ladis, Sarah Ponsonby (1755-1831) ac Eleanor Butler (1739-1829) rentu'r bwthyn a'i ail-enwi'n Plas Newydd.

Er iddynt ddod yn adnabyddus fel 'Ladis Llangollen', o Iwerddon y deuai Sarah ac Elearnor yn wreiddiol. Ar ôl iddynt gyfarfod gyntaf yn 1768, fe wnaethant ffurfio perthynas glos a gwneud cynlluniau i ddianc oddi wrth eu teuluoedd. Methiant fu eu hymgais gyntaf i ddianc yn y nos yn 1778. Wedi'u gwisgo mewn dillad dynion, yn cario gwn a chyda Mary Carryll, morwyn Eleanor yn gwmni iddynt, cawsant eu stopio yn Waterford. Oherwydd iddynt fynnu na fyddent byth yn rhoi'r gorau i'w ceisiadau i redeg i ffwrdd, fe wnaeth eu teuluoedd ildio o'u hanfodd i'w dymuniadau yn y diwedd. Ar ôl crwydro drwy Ogledd Cymru, ymgartrefodd y Ladis a'u morwyn yn y diwedd ym Mhlas Newydd, ymhell o fywyd trefol ffasiynol.

Prin oedd eu harian eu hunain, a dibynnai'r Ladis i raddau helaeth ar ewyllys da a chefnogaeth cyfeillion. Dros amser fe wnaethant gasglu llyfrgell, gohebu'n helaeth, ac yn raddol adnewyddu a helaethu eu tŷ a'r gerddi o'i amgylch. Trawsnewidiwyd Plas Newydd yn yr arddull Gothig drwy osod bwâu, ffenestri lliw a cherfiadau pren addurniedig, yn ogystal ag addurno eu gardd gyda'r fedyddfan o adfeilion Abaty Glyn y Groes gerllaw.

Er eu bod yn byw ar y cyrion i raddau helaeth, roedd gan y Ladis fywyd cymdeithasol prysur ac roeddent yn uchel eu parch ymysg trigolion Llangollen. Gan fod Llangollen ar un o'r llwybrau twristaidd cynharaf i Gymru, dechreuodd eu henwogrwydd rhyngwladol cynyddol dynnu mwy a mwy o ymwelwyr i'r tŷ. Yn 1809 cafodd y wraig fonheddig a'r ffoadur o Ffrainc, Madame Genlis, ei chadw'n effro'r nos gan y delyn Aeolaidd yr oedd y Ladis wedi'i gosod y tu allan i'r ffenestr ac, yn 1828, treuliodd y Tywysog Almaenig Puckler-Muskau brynhawn gyda hwy, ar ôl clywed gyntaf amdanynt pan oedd yn blentyn ddeng mlynedd ar hugain yn gynt.

Ar ei marwolaeth yn 1809, gadawodd Mary Carryll gae Aberadda i'r Ladis. Roedd Mary wedi prynu'r cae gyda'i chynilion oes a daliodd y Ladis ati i'w ffermio i gael incwm bychan. Fel arwydd o'u parch ati, cododd y Ladis gofeb iddi ym mynwent Llangollen ac fe'u claddwyd hwythau yn yr un bedd yn ddiweddarach.

Ar ôl eu marw, daliodd y tŷ i gael ei ddatblygu gan berchenogion diweddarach. Ychwanegodd y Cadfridog York yr addurn du a gwyn i'r ffasâd, a hefyd ychwanegwyd yr esgyll dwyreiniol a gorllewinol sydd wedi eu dymchwel bellach.

Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.

Delweddau Digidol

Chofnodion Archifol

Safleoedd Cysylltiedig

Adnoddau Ar-lein