Hygyrchedd

Font Size cy

100% 150% 200%

background colour cy

cy Cyferbynnedd
Cau Ailosod

PONTCYSYLLTE AQUEDUCT

Manylion y Safle

© Copyright and database right 2021. All rights reserved. Ordnance Survey licence number 0100022206

NPRN 34410

Cyfeirnod Map SJ24SE

Cyfeirnod Grid SJ2704542017

Awdurdod Lleol Wrecsam

Hen Sir Dinbych

Cymuned Llangollen Rural

Math o Safle TRAPHONT DDWR

Dosbarth Cyffredinol CLUDIANT

Cyfnod Ôl-Ganoloesol

Disgrifiad o´r Safle Adeiladwyd Traphont Ddŵr Pontcysyllte rhwng 1796 a 1805 i gario Camlas Ellesmere dros Afon Dyfrdwy, gan gysylltu pentrefi Froncysyllte a Threfor a oedd ar y naill ochr a'r llall i'r dyffryn. Fe'i cynlluniwyd a'i hadeiladu gan y peiriannydd sifil Thomas Telford, yn gweithredu fel Asiant Cyffredinol, a'r peiriannydd ymgynghorol mwy profiadol, William Jessop, a wnaeth yr arolygon o'r safle a chynghori ar y dulliau gorau o weithredu. Costiodd adeiladu Traphont Ddŵr Pontcysyllte £47,000. Yn 39 metr o uchder a 307 metr ar ei hyd, mae nawr y draphont ddŵr hiraf y gellir hwylio drosti ym Mhrydain a'r uchaf yn y byd.

Mae'r draphont yn cynnwys deunaw o bileri carreg sy'n cynnal cafn o haearn bwrw sy'n ffurfio'r gamlas. Mae'r pileri'n wag tu mewn ac yn meinhau at y brig er mwyn lleihau eu pwysau ac felly alluogi codi adeiladwaith mor uchel. Ar gyfer mortar, dywedir bod y peirianwyr wedi dibynnu ar gymysgedd o galch, dŵr a gwaed bustych. Nid yw'r cafn haearn bwrw wedi ei gysylltu â'r gwaith cerrig, ond mae'n gorffwys yn unig ar ben cyfres o asennau haearn sy'n codi o bob piler ac fe'i delir yn ei le gan bwysau'r dŵr yn unig. Disodlwyd y llwybr halio gwreiddiol yn 1831 gan gynllun cantilifer a oedd yn galluogi i ddŵr a symudid gan gychod yn pasio lifo o dano, gan leihau ataliad.

Adeiladwyd y draphont ddŵr ar yr adeg yr oedd twristiaeth fodern yn dechrau dod i Gymru. Ymysg yr ymwelwyr cyfandirol cynnar oedd yr Archddug John o Awstria. Gyda diwedd y Rhyfeloedd Napoleonaidd, manteisiodd ar y cyfle i deithio i Gymru yn 1816. Canmolodd harddwch dyffryn Dyfrdwy yn gyffredinol ac yna argymhellodd yn arbennig y dylid edrych ar y draphont o lawr y dyffryn o dani oherwydd bod hynny'n galluogi rhywun i werthfawrogi ei hadeiladwaith cywrain yn well. Roedd gan ymwelwyr eraill lai o ddiddordeb yn agweddau peirianneg y draphont, gan ei gwerthfawrogi'n fwy am ei harddwch pensaernïol a'i chytgord â'r tirwedd o'i chwmpas. Ar 22 Mehefin 1830, paentiodd yr arlunydd tirluniau o Ffrainc, Alphonse Dousseau, ddarlun dyfrlliw manwl gywir o Draphont Ddŵr Pontcysyllte. Yn gefndir iddi roedd dyffryn hardd y Ddyfrdwy ar fachlud haul ac adfeilion Castell Dinas Brân yn y pellter.

Yn 2009 dynodwyd Traphont Ddŵr Pontcysyllte yn Safle Treftadaeth Byd gan UNESCO, gan gydnabod ei chynllun peirianneg arloesol a'i phwysigrwydd mawr yn natblygiad hanesyddol camlesi ym Mhrydain.

Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.

Delweddau Digidol

Chofnodion Archifol

Safleoedd Cysylltiedig

Adnoddau Ar-lein