Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Twthill;Tuthill, Battle Site, Caernarfon

Loading Map
NPRN403421
Cyfeirnod MapSH46SE
Cyfeirnod GridSH4822063030
Awdurdod Unedol (Lleol)Gwynedd
Hen SirSir Gaernarfon
CymunedCaernarfon
Math O SafleSAFLE BRWYDR
CyfnodCanoloesol
Disgrifiad
I oleuo ystyriaeth o'r Rhestr o Feysydd Brwydro Hanesyddol yng Nghymru, comisiynwyd ymchwil ddogfennol a hanesyddol ar frwydr Twtil 1461 ac mae'r adroddiad ymchwil a gafwyd o ganlyniad yn rhoi golwg fanwl ar y digwyddiad (Border Archaeology).

Daw brwydr Twtil yn ystod un o'r cyfnodau o ansefydlogrwydd gwleidyddol mwyaf, sef `Rhyfel y Rhosynnau? a oedd yn mynd law yn llaw a sefyllfa anwadal gwleidyddiaeth yng nghanol y bymthegfed ganrif. Er nad oedd y frwydr yn fawr mwy nac ysgarmes, roedd y canlyniad yn arwyddocaol, roedd yr Iorciaid wedi llwyddo i ddinistrio llu bwydro mawr olaf y Lancastriaid yng Nghymru ac wedi gorfodi eu prif arweinwyr, Henry Holland Dug Caerwysg a Jasper Tudor, Iarll Penfro i ffoi o'r wlad.

Ychydig iawn o wybodaeth sydd am y frwydr ei hun; ni chanfuwyd unrhyw gyfeiriad ati mewn croniclau o'r cyfnod neu o gyfnod cyfagos ac felly ymddengys mai ychydig iawn a wyddys am hynt y frwydr, y digwyddiadau yn union cyn y frwydr a beth a ddigwyddodd wedyn. Yr unig gyfeiriad penodol at y frwydr a?i lleoliad yw'r un a geir mewn rhestr o bersonau a atentiwyd am fradwriaeth yn y Senedd a gynhaliwyd ar 4ydd Tachwedd 1461, sy?n nodi:

Cyfieithiad: 'Harri Dug Caerwysg, Jasper Iarll Penfro and Thomas Fitzhenry gynt o Henffordd, yswain, mewn lle o'r enw Twtil (Tutehill) ger tref Caernarfon yng Nghymru, ar y dydd Gwener ar ol g?yl dyrchafu St Edward (16 Hydref 1461) a gododd mewn rhyfel yn erbyn ein brenin, gan fwriadu mynd ar unwaith i?w ddinistrio drwy frad a thrais creulon, yn erbyn eu ffydd a?u teyrngarwch' (Horrax).

Mae?n bosibl fod y Lancastriaid wedi sefydlu gwersyll ar Twtil cyn symud ymlaen i ymosod ar Gaernarfon, er nad oes modd cadarnhau hyn o'r dystiolaeth sydd ar gael. Gellir nodi mai Twtil yw'r graig serth, rhannol goediog o fewn tref fodern Caernarfon (SH 4822 6303), 400m i'r gogledd-ddwyrain o'r fwrdeistref gaerog ganoloesol. Ar gopa'r bryn ceir olion ffos a dorrwyd o'r graig, a ddisgrifir yng Nghofrestr Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (RCAHMW) (1960) fel un sydd fwyaf tebyg yn dyddio o gyfnod cyn y Rhufeiniaid, er na ellir diystyru'r posibilrwydd ei bod yn rhan o gloddwaith mwnt a beili o'r oesoedd canol (RCAHMW, 158b).

CBHC, Ionawr 2017

Llyfryddiaeth
Border Archaeology, Twthill (October 16th 1461): Documentary and Historical Research Report (2009).
Horrox R. (ed.), `Edward IV, Parliament of 1461, Text and Translation?, The Parliament Rolls of Medieval England, Given Wilson et al (ed). (CD Rom Scholarly Digital Editions, Leicester, 2005), vol. 478a.
RCAHMW, An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: V County of Carmarthen (HMSO, London, 1960).