DisgrifiadMae cerdd gan Cynddelw Brydydd Mawr yn nodi buddugoliaeth i Llywelyn ab Iorwerth (m.1240) yn ei ysgarmes gyda?i ewythr, Dafydd ab Owain Gwynedd, yn 1194 (Insley):
Ni bu lledrad cad cadr aber---Conwy,
Cynnechreu fy udd ner;
Cynnygn fy llyw oedd llawer,
Cwyddynt yn gnif seithrif ser (Jones and Owen, 241, line 9).
Cyfieithiad:
Ni bu byddin un gwych Aberconwy yn llechwraidd
[Ar] ddechreuad [gyrfa] fy arglwydd-bennaeth;
Niferus oedd gelynion fy arweinydd
[Ond] syrthiai saith gwaith rhif y ser yn farw yn [yr] ymrafael. (Jones and Owen, 244, llinell 9).
Cyfeirir at y frwydr hefyd gan y bardd Prydydd y Moch (Jones, 52, llinell 23 a 213, llinell 19), ond nid oes son amdani yn unrhyw un o'r croniclau.
CBHC, Chwefror 2017
Llyfryddiaeth
Jones, Nerys Ann and Owen, Ann Parry (gol), Gwaith Cynddelw Mawr II (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995).
Charles Insley, `The Wilderness Years of Llywelyn the Great?, Thirteenth Century England IX (2001), 163-73.
Jones, Elin M. (gol.) Gwaith Llywarch ap Llewelyn `Prydyddy Moch? (Caedydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1991).