Hygyrchedd

Font Size cy

100% 150% 200%

background colour cy

cy Cyferbynnedd
Cau Ailosod

CHWAREL Y PENRHYN

Manylion y Safle

© Copyright and database right 2019. All rights reserved. Ordnance Survey licence number 0100022206

NPRN 40564

Cyfeirnod Map SH66NW

Cyfeirnod Grid SH621650

Awdurdod Lleol Gwynedd 

Hen Sir Caernarfon

Cymuned Llandygai

Math o Safle CHWAREL LECHI

Dosbarth Cyffredinol DIWYDIANNOL

Cyfnod 18fed Ganrif, 21ain Ganrif, 20fed Ganrif, 19eg Ganrif

Disgrifiad o´r Safle Dechreuwyd y diwydiant llechi ar raddfa fawr yn Chwarel y Penrhyn yn 1770 dan berchenogaeth Richard Pennant, a oedd wedi etifeddu ystâd y Penrhyn drwy ei wraig, Ann Warburton. Dros y ganrif nesaf, datblygodd i fod yn chwarel lechi fwya'r byd, gan gyflogi tua 3,000 o bobl ac roedd ei phrif geudwll bron i filltir o hyd. Gosodwyd rheilffordd o'r chwarel i Borth Penrhyn ar gyrion Bangor i hwyluso cludo'r llechi a oedd yn cael eu hallforio i bedwar ban byd. Oherwydd eu hansawdd uchel ac amrywiaeth eu lliwiau, roedd llechi Cymreig yn cael eu hystyried y deunydd toi gorau a oedd ar gael. Defnyddiwyd y llechfaen hefyd fel deunydd ffensio ac adeiladu a cherrig llorio, ac i wneud dodrefn cadarn a cherrig beddau addurnedig.

Roedd yr amodau gwaith yn y chwareli'n eithriadol beryglus gan fod y chwarelwyr yn hongian ar raffau ar wyneb y graig wrth ei thyllu ac yn defnyddio ffrwydron i ryddhau talpiau mawr o gerrig. Hyd yn oed os na fyddent yn colli aelodau neu hyd yn oed eu bywydau, roedd llawer o'r chwarelwyr yn datblygu clefyd y llwch (silicosis), wrth i ronynnau bychain o lwch o hollti llechi aros yn eu hysgyfaint.

Oherwydd yr amodau gwaith caled a'r cyflogau eithriadol isel a delid i'r chwarelwyr, gwelodd Chwarel y Penrhyn nifer o streiciau at ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gan barhau o 1900 tan 1903, y Streic Fawr oedd yr anghydfod diwydiannol hiraf yn hanes Prydain. Amcangyfrifir iddi effeithio ar bron i chwarter poblogaeth Gogledd Cymru. Wedi tair blynedd o wrthsefyll, daeth adnoddau'r chwarelwyr i ben ac fe'u gorfodwyd i ddychwelyd i'r gwaith ar gyflogau llawer is. Yn sgîl y streic, gwelwyd gostyngiad sylweddol yn y galw am lechi Gogledd Cymru. Ers hynny mae cynhyrchu llechi wedi edwino'n raddol.

Drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd maint enfawr Chwarel y Penrhyn a'i miloedd gweithwyr yn tynnu nifer fawr o dwristiaid yno. Roedd cael mynd am reid mewn wagenni llechi agored yn rhuthro i lawr yr incleiniau ar gyflymder mawr yn dipyn o hwyl a sbri i ymwelwyr Fictoraidd. Erbyn heddiw diflannodd y wagenni agored, ond mae twristiaid yn dal i chwyrlio dros y ceudwll agored yn sownd wrth wifrau'r atyniad diweddaraf.

Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.

Delweddau Digidol

Chofnodion Archifol

Safleoedd Cysylltiedig

Adnoddau Ar-lein