Hygyrchedd

Font Size cy

100% 150% 200%

background colour cy

cy Cyferbynnedd
Cau Ailosod

CADAIR IDRIS

Manylion y Safle

© Copyright and database right 2020. All rights reserved. Ordnance Survey licence number 0100022206

NPRN 406409

Cyfeirnod Map SH71SW

Cyfeirnod Grid SH72681366

Awdurdod Lleol Gwynedd 

Hen Sir Meirionnydd

Cymuned Llanfihangel-y-pennant

Math o Safle TIRWEDD

Dosbarth Cyffredinol HEB EI NEILLTUO

Cyfnod Cyffredinol

Disgrifiad o´r Safle Mae mynydd Cader Idris ychydig i'r de o afon Mawddwy ger Dolgellau yng Ngwynedd, a gelwir ei gopa, sy'n 893 metr o uchder, yn Penygader. Dywed chwedl werin, a gofnodwyd ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg, y byddai unrhyw un a dreuliai noson ar gopa'r mynydd yn deffro yn y bore naill ai'n fardd neu'n wallgof. Treuliodd y Parchedig Evan Evans, sy'n fwy adnabyddus efallai wrth ei enwau barddol, Ieuan Fardd neu Ieuan Brydydd Hir, noson ar y copa fel arbrawf i ddarganfod a oedd yna unrhyw wirionedd yn y chwedl hon. Nid aeth yn wallgof ond ni chafodd lawer o hapusrwydd mewn bywyd ar ôl hynny chwaith.

Ers y cyfnod Rhamantaidd, mae llawer o dwristiaid wedi heidio i fynyddoedd Eryri a chan fod Cader Idris yn hygyrch o Ddolgellau a'r Bermo, mae wedi bod yn gyrchfan boblogaidd ers amser i dripiau diwrnod. Yn niwedd y 1880au disgrifiodd Friedrich Althaus o'r Almaen sut y dringai twristiaid i'r copa o'r Bermo gerllaw gyda help tywysydd lleol a'u fulod. Mae'n parhau'n hynod boblogaidd gyda cherddwyr mynyddoedd a cheir llwybrau o amrywiol anhawsedd ar ei lethrau gogleddol a deheuol.

Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.

Delweddau Digidol

Chofnodion Archifol