Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Argraffdy Llanrwst

Loading Map
NPRN41217
Cyfeirnod MapSH76SE
Cyfeirnod GridSH7993661705
Awdurdod Unedol (Lleol)Conwy
Hen SirDenbighshire
CymunedLlanrwst
Math O SafleGWAITH ARGRAFFU
CyfnodÔl-Ganoloesol
Disgrifiad

Dechreuodd yr argraffdy yn Llanrwst pan symudodd yr argraffydd John Jones (1786-1865) ei fusnes o Drefriw i 29 Station Road ym 1825, ac yna i 30 Denbigh Road ym 1836. Yn ogystal a chael ei hyfforddi?n argraffydd, roedd Jones wedi prentisio fel gof, a dywedir iddo gynhyrchu ei deip ei hun a dyfeisio peiriant torri papur. Cynhyrchodd y wasg nifer o faledi, cyfres o almanaciau dan deitlau a ddechreuodd a'r geiriau `Y Cyfaill? yr honnwyd, hyd 1834, eu bod wedi?u cyhoeddi yn Nulyn er mwyn osgoi talu treth, a chylchgrawn misol y Bedyddwyr i blant, Athraw i Blentyn (1827-1845). Cyhoeddodd hefyd nifer o weithiau gan awduron Cymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg, er enghraifft, William Williams (Caledfryn) a William Rees (Gwilym Hiraethog), yn ogystal ag argraffiadau newydd o weithiau clasurol megis Drych yr Hen Oesoedd, gweithiau Twm o'r Nant a chasgliad pwysig o weithiau Goronwy Owen yn dwyn y teitl Gronoviana (1860).

Ar ol marwolaeth Jones ym 1865, parhawyd y busnes gan ei fab, Owen Evans-Jones, a?i ferch, Catherine Jones, dan yr enw `O. Evans-Jones & Co?. Ar ol marwolaeth Owen, daeth Catherine Jones a J.J. Lloyd yn berchenogion. Ar ol marwolaeth Catherine ym 1892, parhaodd Lloyd i redeg y busnes a hynny gyda?i chwaer, Mrs Morris. Caeodd ym 1935.

Mae 30 Denbigh Street yn adeilad dwfn a dau lawr a hanner. Mae wedi?i rendro ac mae ganddo do llechi, ffenestri sgwar ar y trydydd llawr, ffenestri dalennog ar yr ail lawr, a ffenestr siop fodern ar y llawr cyntaf. Mae gan yr adeiladau eraill i'r gorllewin, y mae?n rhannu llinell doeau gyda hwy, ffenestri dormer ar y trydydd llawr, ffenestri oriel ar yr ail lawr, a blaenau siop ar y llawr cyntaf.

(Ffynonellau: Ifano Jones, A History of Printing and Printers in Wales to 1810, and of Successive and Related Printers to 1923, also, A History of Printing and Printers in Monmouthshire to 1923 (Caerdydd: William Lewis (Printers) Limited, 1925), tt. 65?67, 70; Y Bywgraffiadur Cymreig, s.v. John Jones (1786?1865) (cyrchwyd drwy biography.wales))
A.N. Coward, CBHC, 18.04.2019