Hygyrchedd

Font Size cy

100% 150% 200%

background colour cy

cy Cyferbynnedd
Cau Ailosod

LLANOVER HOUSE

Manylion y Safle

© Copyright and database right 2019. All rights reserved. Ordnance Survey licence number 0100022206

NPRN 45084

Cyfeirnod Map SO30NW

Cyfeirnod Grid SO31600865

Awdurdod Lleol Sir Fynwy

Hen Sir Mynwy

Cymuned Llanover

Math o Safle TY

Dosbarth Cyffredinol DOMESTIG

Cyfnod Ôl-Ganoloesol

Disgrifiad o´r Safle Mae lle arbennig i Neuadd Llanofer yn hanes yr adfywiad diweddar mewn diwylliant a llenyddiaeth Gymraeg. Roedd y plasty'n ychwanegiad cymharol ddiweddar at y rhestr o blastaid Cymreig. Fe'i comisiynwyd yn 1828 gan Benjamin ac Augusta Hall, Arglwydd ac Arglwyddes Llanofel, a'i gynllunio gan Thomas Hopper.

Roedd Benjamin Hall (1802 - 1867) yn beiriannydd sifil cyfoethog, Aelod Seneddol a diwygiwr cymdeithasol o'r Fenni. Gan ei fod yn gyfrifol am oruchwylio camau diwethaf ailadeiladu San Steffan, credir i 'Big Ben', y gloch fawr a osodwyd dan ei oruchwyliaeth yn nhŵr y cloc, gael ei llysenwi ar ei ôl. Yn 1823 priododd ag Augusta, Waddington cyn priodi, (1802-1896) o Abercarn gerllaw.

Prif ddiddordebau Arglwyddes Llanofer oedd astudio hanes, iaith a llenyddiaeth Cymru. Mabwysiadodd yr enw barddol Gwenynen Gwent ac, fel noddwr y celfyddydau, cyflogodd nifer o delynorion preswyl i weithio yn ei thŷ. Hefyd, anogodd adfywiad y dillad traddodiadol a wisgid gan y bobl gyffredin mewn gwahanol rannau o Gymru. Roedd mor hoff o'r gwahanol wisgoedd a gynhyrchid yn lleol, fel y dechreuodd wisgio fersiwn fwy bonheddig ohonynt yn ystod gwahanol wyliau a dathliadau diwylliannol, a gellir honni mai Arglwyddes Llanofer wnaeth greu 'gwisg genedlaethol' Cymru. (Gan nad oedd Benjamin Hall yn rhannu hoffter ei wraig o wisgo mewn dull gwledig, nid oes yna wisg i ddynion sy'n cyfateb i'r wisg Gymreig i ferched.)

Yn ogystal, roedd Arglwyddes Llanofer yn gasglwr llawysgrifau a sefydlodd eisteddfod flynyddol leol Cymreigyddion Y Fenni, a gwahoddodd iddi lawer o westeion rhyngwladol a rannai ei hoffter o gerddoriaeth a barddoniaeth Gymraeg. Roedd yn noddwr y Gymdeithas Lawysgrifau Cymreig, talodd am lunio geiriadur Cymraeg a bu'n flaenllaw gyda sefydlu Y Gymraes, y cylchgrawn Cymraeg cyntaf i ferched. Dros y blynyddoedd roedd gwesteion amlwg yn cynnwys ei brawd yng nghyfraith Almaenig, Christian Carl von Bunsen, yn ogystal â Théodore Claude Henri, vicomte Hersart de la Villemarqué, o Lydaw a gafodd ei dderbyn fel bardd i'r Orsedd.

Cafodd Neuadd Llanofer, a ailenwyd yn Dŷ Llanofer, ei ddymchwel i raddau helaeth yn 1936, ond mae yno dŷ preifat o hyd gyda gardd fawr a pharc. Mae'r perchnogion presennol yn aml yn agor y drysau i'r cyhoedd fwynhau'r ardd drefnus, 200 oed, a gomisiynwyd gan y perchnogion cyntaf, Benjamin ac Augusta. Yn ogystal, maent hwythau'n parhau'r traddodiad o blannu coed.

Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.

Delweddau Digidol

Chofnodion Archifol

Safleoedd Cysylltiedig

Adnoddau Ar-lein