DisgrifiadMae lle arbennig i Neuadd Llanofer yn hanes yr adfywiad diweddar mewn diwylliant a llenyddiaeth Gymraeg. Roedd y plasty'n ychwanegiad cymharol ddiweddar at y rhestr o blastaid Cymreig. Fe'i comisiynwyd yn 1828 gan Benjamin ac Augusta Hall, Arglwydd ac Arglwyddes Llanofel, a'i gynllunio gan Thomas Hopper.
Roedd Benjamin Hall (1802 - 1867) yn beiriannydd sifil cyfoethog, Aelod Seneddol a diwygiwr cymdeithasol o'r Fenni. Gan ei fod yn gyfrifol am oruchwylio camau diwethaf ailadeiladu San Steffan, credir i 'Big Ben', y gloch fawr a osodwyd dan ei oruchwyliaeth yn nh'r y cloc, gael ei llysenwi ar ei ol. Yn 1823 priododd ag Augusta, Waddington cyn priodi, (1802-1896) o Abercarn gerllaw.
Prif ddiddordebau Arglwyddes Llanofer oedd astudio hanes, iaith a llenyddiaeth Cymru. Mabwysiadodd yr enw barddol Gwenynen Gwent ac, fel noddwr y celfyddydau, cyflogodd nifer o delynorion preswyl i weithio yn ei th?. Hefyd, anogodd adfywiad y dillad traddodiadol a wisgid gan y bobl gyffredin mewn gwahanol rannau o Gymru. Roedd mor hoff o'r gwahanol wisgoedd a gynhyrchid yn lleol, fel y dechreuodd wisgio fersiwn fwy bonheddig ohonynt yn ystod gwahanol wyliau a dathliadau diwylliannol, a gellir honni mai Arglwyddes Llanofer wnaeth greu 'gwisg genedlaethol' Cymru. (Gan nad oedd Benjamin Hall yn rhannu hoffter ei wraig o wisgo mewn dull gwledig, nid oes yna wisg i ddynion sy'n cyfateb i'r wisg Gymreig i ferched.)
Yn ogystal, roedd Arglwyddes Llanofer yn gasglwr llawysgrifau a sefydlodd eisteddfod flynyddol leol Cymreigyddion Y Fenni, a gwahoddodd iddi lawer o westeion rhyngwladol a rannai ei hoffter o gerddoriaeth a barddoniaeth Gymraeg. Roedd yn noddwr y Gymdeithas Lawysgrifau Cymreig, talodd am lunio geiriadur Cymraeg a bu'n flaenllaw gyda sefydlu Y Gymraes, y cylchgrawn Cymraeg cyntaf i ferched. Dros y blynyddoedd roedd gwesteion amlwg yn cynnwys ei brawd yng nghyfraith Almaenig, Christian Carl von Bunsen, yn ogystal a Theodore Claude Henri, vicomte Hersart de la Villemarque, o Lydaw a gafodd ei dderbyn fel bardd i'r Orsedd.
Cafodd Neuadd Llanofer, a ailenwyd yn D? Llanofer, ei ddymchwel i raddau helaeth yn 1936, ond mae yno d? preifat o hyd gyda gardd fawr a pharc. Mae'r perchnogion presennol yn aml yn agor y drysau i'r cyhoedd fwynhau'r ardd drefnus, 200 oed, a gomisiynwyd gan y perchnogion cyntaf, Benjamin ac Augusta. Yn ogystal, maent hwythau'n parhau'r traddodiad o blannu coed.
Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.