Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Chepstow Castle

Loading Map
NPRN95237
Cyfeirnod MapST59SW
Cyfeirnod GridST5335094120
Awdurdod Unedol (Lleol)Sir Fynwy
Hen SirSir Fynwy
CymunedChepstow
Math O SafleCASTELL
CyfnodÔl-Ganoloesol
Disgrifiad
Bu castell ar y safle strategol hwn uwchlaw Afon Gwy er 1067 ac mae'n un o'r cestyll mwyaf trawiadol yng Nghymru. Cafodd Castell Cas-gwent ei atgyfnerthu gan William Marshall rhwng 1190 a'i farwolaeth yn 1219 ac ychwanegwyd ato ymhellach gan Roger Bigod yn y 1270au. Bu garsiwn yn y castell yn ystod gwrthryfel Glyn D'r a bu dan warchae ddwywaith yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr.

Ar ol i ryfeloedd cartref Lloegr ddod i ben a'r frenhiniaeth gael ei hadfer, defnyddiwyd Castell Cas-gwent fel garsiwn a charchar. Enwir T'r Marten ar ol ei garcharor enwocaf, Henry Marten, a lofnododd y gwarant i ddienyddio Charles I, ac a fu farw yn y castell yn 1680. Yn fuan ar ol ei farwolaeth, symudwyd y garsiwn oddi yno a dechreuodd y castell fynd a'i ben iddo.

Gyda dyfodiad twristiaeth fodern at ddiwedd y ddeunawfed ganrif, ailddarganfuwyd Castell Cas-gwent, a oedd erbyn hynny'n adfeilion, gan deithwyr yn chwilio am olygfeydd rhamantaidd Cymru. Ymyst y teithwyr cynharaf o'r Almaen roedd Carl Gottlob Kuttner a ymwelodd yn 1784. Gwnaeth hanes y castell, ei garcharorion pwysig a'i safle trawiadol ar lannau'r Gwy argraff fawr arno, ac roedd yn gofidio'n arw nad oedd ganddo fwy o amser ar ei ddwylo i aros dipyn yn hwy a thynnu ei lun o bob ochr. Ddeuddeg mlynedd yn ddiweddarach ymwelodd y Llydawr Armand-Louis-Bon Maudet, Comte de Penhouet, a'r lle ac fe'i cyfareddwyd gan y bensaerniaeth, yr hanes a'r amgylchedd hynod hardd. Nid oedd ei gynlluniau teithio prysur yn caniatau iddo yntau aros yn hir chwaith, ond yn ei ddyddiadur taith mae'n hael ei ganmoliaeth i wasanaeth a charedigrwydd Mrs Williams, a oedd yn cael ei chyflogi gan berchen y castell, Iarll Beaufort, i arwain ymwelwyr o amgylch y safle.

Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.
Adnoddau
LawrlwythoMathFfynhonnellDisgrifiad
application/mswordETW - European Travellers to Wales ProjectDigital survey archive coversheet relating to Chepstow Castle Gigapan Project carried out by Susan Fielding and Rita Singer, July 2017. Produced through European Travellers to Wales project.
application/pdfETW - European Travellers to Wales ProjectDescription of a visit to Chepstow Castle by Alfred Erny from 'Voyage dans le pays de Galles' (1862). Text available in Welsh, English, French and German. Produced through the European Travellers to Wales project.
application/pdfAENT - Archaeological Reports/Evaluations (non Trust)Appendix 1 to Illustrated report entitled "Chepstow Castle - Earl's Chamber. Scheduled Monument Consent Completion Report" produced by pdpGreen Consulting, dated May 2018.
application/pdfAENT - Archaeological Reports/Evaluations (non Trust)Illustrated report entitled "Chepstow Castle - Earl's Chamber. Scheduled Monument Consent Completion Report" produced by pdp Green Consulting, dated May 2018.
application/pdfRCAHMW ExhibitionsBilingual exhibition panel entitled Dyddio blwyddgylch yng Nghymru; Tree-ring dated buildings in Wales, produced by RCAHMW 2013.