Hygyrchedd

Font Size cy

100% 150% 200%

background colour cy

cy Cyferbynnedd
Cau Ailosod

CAERNARFON CASTLE, CAERNARFON

Manylion y Safle

© Copyright and database right 2020. All rights reserved. Ordnance Survey licence number 0100022206

NPRN 95318

Cyfeirnod Map SH46SE

Cyfeirnod Grid SH4779862668

Awdurdod Lleol Gwynedd 

Hen Sir Caernarfon

Cymuned Caernarfon

Math o Safle CASTELL

Dosbarth Cyffredinol AMDDIFFYN

Cyfnod Canoloesol

Disgrifiad o´r Safle Sefydlwyd caer Rufeinig Segontium ar gyrion tref fodern Caernarfon fel rhan o'r ymgyrch i wastrodi'r Ordoficiaid yn OC77. Crybwyllir y gaer hon yn y chwedl 'Breuddwyd Macsen Wledig', a geir yn y Mabinogion, sy'n gasgliad o straeon Cymreig o'r oesoedd canol. Yn dilyn y Goncwest Normanaidd, adeiladodd Hugh d'Avranches, Iarll Caer, dri chastell ar hyd Gogledd Cymru, yn cynnwys un yng Nghaernarfon, ond erbyn 1115 roedd y Cymry wedi cipio Castell Caernarfon ynghyd â theyrnas Gwynedd.

Yn 1283, wedi concwest Gwynedd, dechreuodd y brenin Edward I ailadeiladu Castell Caernarfon ar raddfa fawr, gan ei wneud yn symbol amlwg o'i reolaeth dros y diriogaeth yr oedd wedi'i meddiannu. Gan adlewyrchu muriau enfawr Caergystennin, adeiladwyd y tyrau ar ffurf amlonglog a gosodwyd rhesi llorweddol o gerrig lliw fel addurn yn y muriau. I gwblhau'r arddangosiad o rym Edward, roedd eryrod carreg yn addurno parapetau'r tŵr uchaf gan chwarae ar y syniad o orffennol ymerodrol Cymru. Ganed Edward II yng Nghastell Caernarfon yn 1284, a throsglwyddodd Edward I y teitl 'Tywysog Cymru' i'w fab bychan i sefydlu ei reolaeth linachol dros Gymru.

Yn ystod Gwrthryfel Glyndŵr cafodd y castell a'r dref eu gwarchae'n gyson gan y Cymry a milwyr Ffrengig a oedd yn eu cynorthwyo. Fodd bynnag, gydag esgyniad Harri Tudur i orsedd Lloegr, collodd Castell Caernarfon ei bwysigrwydd a dechreuodd ddadfeilio. Ond roedd ei amddiffynfeydd yn dal mewn cyflwr digon da iddo gael ei ddefnyddio gan y Brenhinwyr a fu'n garsiwn yno yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr. Ar ôl y cyfnod byr hwn o wrthdaro, gadawyd y castell yn llwyr.

Yn ystod y cyfnod Rhamantaidd, dechreuodd twristiaid gyrraedd mewn nifer cynyddol gan gymryd diddordeb arbennig yn adfeilion trawiadol Cymru. O ganlyniad, gwnaed gwaith adfer a chadwraeth helaeth ar Gastell Caernarfon yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn 1986 cafodd Caernarfon ei chydnabod yn rhan o Safle Treftadaeth Byd Cestyll a Muriau Trefol Edward I gan UNESCO, ynghyd â Biwmares, Conwy a Harlech. Cadw sy'n gyfrifol erbyn hyn am Gastell Caernarfon.

Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.

Delweddau Digidol

Chofnodion Archifol

Safleoedd Cysylltiedig

Adnoddau Ar-lein