Cymorth
Cymorth Coflein: Sut mae chwilio am Gofnodion Safle
Cymorth Coflein: Sut mae defnyddio Chwiliad Uwch
Cymorth Coflein: Sut mae defnyddio Map
Cymorth Coflein: Sut mae defnyddio Chwiliad Safle Uwch a chreu map dosbarthiad
Cymorth Coflein: Sut mae cuddio’r blwch Gwybodaeth Bellach
Cymorth Coflein: Sut mae dod o hyd i’m lleoliad ar ffôn clyfar neu dabled
Dadlwythwch ddelweddau o Coflein
Dyluniwyd Coflein i fod yn hollol hygyrch ar eich ffôn neu dabled. Oherwydd ein hymrwymiad i wella ein gwasanaethau’n barhaus fe fydd mwy o nodweddion gwych yn cael eu cyflwyno, er enghraifft, fe fydd y system fapio’n cael ei gwella yn y dyfodol agos.
Chwilio ein catalog cyfan (Safleoedd ac Archifau) yn ôl allweddair
- Defnyddiwch y blwch Chwilio yn hafan Coflein neu cliciwch Chwilio i redeg chwiliad sylfaenol ar draws Safleoedd ac Archifau. Cewch chwilio yn ôl Allweddair, NPRN neu Rif Archif a chaiff yr holl ganlyniadau eu rhestru o dan y tabiau Safleoedd neu Archifau, a fydd yn troi o lwyd tywyll i goch pan fyddant yn weithredol.
Chwiliad Safle Uwch
- Cliciwch Chwilio, yna gwnewch y tab Safleoedd yn weithredol drwy glicio arno (mae tab gweithredol yn goch). O dan y blwch chwilio, cliciwch ‘Chwiliad Safle Uwch’.
- I ddarganfod yr holl gaerau Rhufeinig ym Mhowys byddwn yn gwneud hyn:
- Ychwanegu fy hidlydd cyntaf Beth/Pryd/Ble e.e. Math o Safle = “Caer”
- Ychwanegu rhesi Beth/Pryd/Ble pellach i fireinio fy chwiliad ymhellach, e.e. Cyfnod = “Rhufeinig” ac Awdurdod (Lleol) Unedol = “Powys”
- Bydd yr holl safleoedd sy’n cyd-fynd â’m hidlyddion yn cael eu dangos o dan y tab Safleoedd. Os ydw i am weld map dosbarthiad o’r safleoedd hyn, gallaf glicio “Dangos Lleoliadau Safleoedd” a bydd map yn agor sy’n dangos lleoliadau’r safleoedd a ddarganfuwyd gan fy Chwiliad Uwch.
Chwiliad Archif Uwch
- Cliciwch Chwilio, yna gwnewch y tab Archifau yn weithredol drwy glicio arno (mae tab gweithredol yn goch). O dan y blwch chwilio, cliciwch ‘Chwiliad Archif Uwch’.
- Cewch chwilio yn ôl Enw’r Archif, Disgrifiad, Rhif yr Archif, Dyddiad neu NPRN. Yna cliciwch Chwilio.
- Gellir cyfuno’r categorïau hyn drwy ychwanegu rhesi pellach, e.e. rhes 1: Enw’r Archif = R.E. Kay / rhes 2: Disgrifiad = Llantrisant > Chwilio.
Cofnodion Safle
- Mae tabiau’n cael eu defnyddio bellach i strwythuro Cofnodion Safle er mwyn sicrhau profiad cyson i ddefnyddwyr ar draws pob dyfais.
- Mae map chwyddadwy o leoliad y safle’n cael ei ddangos ar ben y dudalen a gellir chwyddo mewn i hwn i gyrchu manylion bach iawn ar y map Arolwg Ordnans.
- Mae pedwar tab o dan y map: Manylion, Delweddau, Cysylltiedig, Archifau.
- Mae’r tab Manylion yn dangos disgrifiad o’r safle a’r metadata.
- Mae’r tab Delweddau yn gweithio fel oriel o’r holl ddelweddau digidol o safle sydd ar gael. Mae clicio ar unrhyw ddelwedd yn agor syllwr delwedddau chwyddadwy sy’n caniatáu i chi archwilio delweddau’n fanwl iawn. Mae’r botwm toglo tudalen lawn ar ben y sgrin yn caniatáu i chi ddangos/cuddio’r blwch sy’n disgrifio’r ddelwedd. Bydd clicio “Gwybodaeth Bellach” yn y blwch disgrifio delwedd yn mynd â chi at System Rheoli Asedau Digidol (DAMS) Coflein – yn y fan hyn, ar ôl i chi gofrestru, cewch weld, lawrlwytho a thrwyddedu copïau o fwy na 136,000 o ddelweddau, adroddiadau ac asedau digidol eraill a ddelir gan y Comisiwn Brenhinol.
- Os oes unrhyw safleoedd cysylltiedig, dangosir y rhain o dan y tab Cysylltiedig.
- Rhestrir pob archif sydd wedi’i chatalogio o dan y tab Archifau. Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys Rhif, Teitl, Lefel, Disgrifiad, a Chyfrwng yr eitem archifol. Bydd clicio ar y Rhif Archif yn mynd â chi at fanylion pellach am bob eitem archifol.
Cofnodion Archifol
- Mae Coflein yn eich galluogi i chwilio archif Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, a bydd yn dod o hyd i eitemau yn ein casgliadau helaeth.
- Dim ond eitemau digidol y gellir eu gweld ar-lein. Gellir gwneud apwyntiad i weld eitemau sydd heb eu digido yn ein Hystafell Ymchwil yn Aberystwyth.
- Os yw’r cofnod yn eitem sydd ar gael ar-lein e.e. ffotograff wedi’i ddigido, dangosir hyn uwchben tri thab: Manylion, Hierarchaeth a Safleoedd Cysylltiedig.
- Mae’r tab Manylion yn dangos metadata y Cofnod Archifol (Rhif yr Archif, Disgrifiad, Cofnod Casgliad a Chyfrwng).
- Mae Hierarchaeth yn dangos safle’r Cofnod Archifol yn yr hierarchaeth archifol (trefnir yr archif yn ôl Casgliad, Grŵp, Is-grŵp, Swp, Eitem).
- Os oes cysylltiad rhwng Cofnod Archifol a Chofnod Safle, nodir hyn o dan y tab Safleoedd Cysylltiedig. Bydd clicio ar y rhif NPRN yn mynd â chi at gofnod llawn y safle hwnnw.
- Bydd clicio ar y cyswllt “Gwybodaeth Bellach” uwchben y tabiau yn mynd â chi at System Rheoli Asedau Digidol (DAMS) Coflein – yn y fan hyn, ar ôl i chi gofrestru, cewch weld, lawrlwytho a thrwyddedu copïau o fwy na 136,000 o ddelweddau, adroddiadau ac asedau digidol eraill a ddelir gan y Comisiwn Brenhinol.
- Os nad oes fersiwn wedi’i ddigido o’r eitem ar gael, dim ond y tabiau fydd i’w gweld. Os hoffech gyrchu eitem archifol, cysylltwch â’n Tîm Llyfrgell ac Ymholiadau drwy ddefnyddio’r Ffurflen Gysylltu a chynnwys y Rhif Archif perthnasol.