Croeso i Coflein beta

Buom yn gweithio’n galed i ailddatblygu’r hen system Coflein a chyflwyno ffyrdd newydd o gyrchu ein casgliad drwy’r wefan newydd hon. Mae Coflein Newydd yn cynnig dulliau gwell o chwilio a hidlo, gan gynnwys blychau-golau delwedd fawr sy’n dangos ein cofnodion safle mewn rhyngwyneb defnyddiwr modern, a’r gallu i lawrlwytho mwy na 135,000 o ddelweddau am ddim. Gobeithiwn y byddwch chi’n ei hoffi.

Beth mae beta yn ei olygu?

Mae’n golygu y byddwch chi’n defnyddio gwefan sydd bron yn gyflawn ond nad yw’n gweithio 100% eto. Mae angen cywiro ambell nam o hyd.

Mae’n golygu y byddwch chi efallai’n darganfod nad yw rhai pethau’n gweithio neu nad yw peth o’r wybodaeth mor gyflawn â’r disgwyl.

Mae’n golygu y byddwn ni’n parhau i wella, gan ychwanegu mwy o ddelweddau, mwy o wybodaeth a mwy o swyddogaethau gydag amser.

A hoffem gael eich cymorth chi. Cafodd y wefan hon ei chreu i chi, fel y gallwch fwynhau ein cofnodion safle a’r data yn ein harchifau a’u rhannu â phobl eraill. Felly byddem yn falch o dderbyn beirniadaeth adeiladol.

Sut gallwch chi helpu?

Dywedwch wrthym! Os dewch o hyd i rywbeth sydd yn eich barn chi yn anghywir, wedi’i dorri, neu’n rhwystr, rhowch wybod i ni. Rhowch gyfle i ni ei gywiro.

Dywedwch wrth bawb. Os gwelwch rywbeth rydych chi’n ei hoffi, rhannwch ef! Trydarwch amdano, postiwch ef ar eich blog, a dywedwch wrth eich ffrindiau a chydweithwyr.

A fyddech cystal â defnyddio’r ffurflen adborth ar ddechrau’r wefan i anfon unrhyw gwestiynau, sylwadau neu syniadau ar gyfer ei gwella. Os hoffech gael ateb, cofiwch gynnwys eich cyfeiriad e-bost.

Diolch am ddefnyddio Coflein.