Polisi Cwci

Pwy ydyn ni

Rheolir gwefan coflein.gov.uk gan y Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Mae gan Gomisiwn Brenhinol rôl genedlaethol flaenllaw o ran datblygu a hyrwyddo dealltwriaeth o dreftadaeth archaeolegol, adeiledig ac arforol Cymru, fel cychwynnwr, curadur a chyflenwr gwybodaeth awdurdodol i wneuthurwyr penderfyniadau unigol a chorfforaethol, a rhai’r llywodraeth, ac i ymchwilwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol

Cwcis

Mae Coflein yn cymryd eich preifatrwydd o ddifrif. Nid ydym yn cadw unrhyw fanylion personol amdanoch ar ein gwefan ond fe ddefnyddiwn Google Analytics i edrych ar ystadegau cyfanredol i allu deall yn well sut mae ymwelwyr â’n gwefan yn ei defnyddio.

Gwasanaeth ystadegau gwe a ddarperir gan Google yw Google Analytics. Pan ymwelwch chi â’n gwefan, mae sgript fach yn gweithredu yn y cefndir i adalw gwybodaeth gryno am eich defnydd ohoni. Caiff y wybodaeth honno’i storio gan Google i’w chasglu ynghyd mewn adroddiadau cyfanredol. Yna gall ein staff holi’r data hynny i gael metrigau defnyddiol ar draws yr holl ymweliadau, megis yr amser a dreuliwyd ar y wefan, y math o borwr, y tudalennau mwyaf poblogaidd ac ati.

Ffeiliau testun bach yw Cwcis ac maent yn bod yn eich cyfrifiadur i helpu gwefannau i’ch adnabod chi fel ymwelydd unigol. Maent yn ein helpu i ddarparu’r profiad gorau posibl i chi.

Mae logiau gwefan yn safonol ar draws pob gwefan a chofnodant bob cais am wybodaeth a gaiff ei brosesu gan weinydd y wefan. Bydd CBHC yn defnyddio ffeiliau cofnodi i gofnodi peth gwybodaeth sylfaenol am y gweithgarwch ar y wefan a byddwn yn ei dadansoddi i ddarparu ystadegau ychwanegol am y defnydd a wneir o’r wefan ac, mewn rhai achosion, i’n helpu i ddeall pa mor hawdd yw hi i’w defnyddio.

Deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd

O dan Gyfarwyddeb Preifatrwydd yr UE, dylai ymwelwyr â Coflein gael gwybod yn llawn am y cwcis a ddefnyddir gan y wefan a chael dewis peidio â’u defnyddio. Os na ddymunwch roi’ch cydsyniad, a chydnabod felly y gall elfennau o’n gwefan beidio â gweithredu’n unol â’u dyluniad, ewch i’r adran isod ynghylch Rheoli Cwcis i gael cymorth i newid gosodiadau’ch porwr.

Beth yw Cwcis?

Ffeiliau testun bach yw cwcis a chânt eu llunio gan weinydd gwefan i’ch gyriant caled. Ni all ond y wefan a’i lluniodd yn wreiddiol eu darllen neu eu golygu, ac fel rheol cânt eu defnyddio i’ch adnabod chi fel yr un person ar draws pob cais a wnewch chi i weld tudalen ar y we.

Categorïau o Gwcis

I’ch helpu chi i ddeall y ffordd y defnyddiwn ni’n cwcis, yr ydym wedi mabwysiadu pedwar categori o gwci, sef y categorïau a grëwyd gan y Siambr Fasnach Ryngwladol (yr ICC). Dyma nhw:

Categori Disgrifiad
Cwbl Angenrheidiol Mae’r cwcis hyn yn hanfodol er mwyn i chi allu symud o amgylch y wefan a defnyddio’i nodweddion, megis mynd i fannau diogel ar y wefan. Heb y cwcis hyn, does dim modd darparu’r gwasanaethau yr ydych chi wedi gofyn amdanynt, fel basgedi siopa neu e-filiau.
Perfformiad Mae’r cwcis hyn yn casglu gwybodaeth am ffyrdd ymwelwyr o ddefnyddio gwefan, er enghraifft, pa dudalennau y bydd ymwelwyr yn ymweld â hwy amlaf, ac a ydynt yn cael neges gwall gan dudalennau’r wefan. Ni fydd y cwcis hyn yn casglu gwybodaeth sy’n fodd i adnabod ymwelydd. Caiff yr holl wybodaeth a gesglir gan y cwcis hyn ei hagregu gan dynnu enw pob unigolyn ohoni. Ni ddefnyddir mohoni ond i wella’r ffordd y mae gwefan yn gweithio.
Darparu Nodweddion Mae’r cwcis hyn yn caniatáu i’r wefan gofio’r dewisiadau a wnaethoch (megis eich enw defnyddiwr, eich iaith neu’r rhanbarth yr ydych chi ynddo) a darparu nodweddion gwell a mwy personol. Er enghraifft, gall gwefan roi rhagolygon y tywydd lleol neu newyddion traffig lleol i chi drwy storio, mewn cwci, wybodaeth am y rhanbarth yr ydych chi ynddo ar hyn o bryd.

Gellir hefyd ddefnyddio’r cwcis hyn i gofio’r newidiadau yr ydych chi wedi’u gwneud i faint y testun, i’r ffontiau ac i’r rhannau eraill o’r wefan y gallwch chi eu haddasu. Gellir hefyd eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau yr ydych chi wedi gofyn amdanynt, megis gwylio fideo neu roi sylw ar flog. Gellir tynnu enwau o’r wybodaeth y mae’r cwcis hyn yn ei chasglu ac ni allant ddilyn eich gweithgarwch pori ar wefannau eraill.

Targedu neu Hysbysebu Defnyddir y cwcis hyn i gyflwyno hysbysebion sy’n fwy perthnasol i chi a’ch diddordebau. Fe’u defnyddir hefyd i gyfyngu ar nifer y troeon y gwelwch chi hysbyseb ac i helpu i fesur effeithiolrwydd yr ymgyrch hysbysebu. Fel rheol, cânt eu gosod gan rwydweithiau hysbysebu gyda chaniatâd gweithredydd y wefan. Byddant yn cofio’ch bod chi wedi ymweld â gwefan a chaiff y wybodaeth honno ei rhannu gyda sefydliadau eraill megis hysbysebwyr. Yn bur aml, caiff cwcis targedu neu gwcis hysbysebu eu cysylltu â gweithrediadau sydd gan y wefan ac sydd wedi’u darparu gan sefydliadau eraill.

Cwcis a luniwyd gan Coflein

Mae’r cwcis hyn wedi’u llunio’n uniongyrchol gan Coflein ac maent yn ofynnol er mwyn i’r wefan weithredu’n unol â’i dyluniad.

Enw’r Cwci Diben y Cwci Categori’r ICC
__utma, __utmb,__utmc,__utmz Defnyddir y cwcis hyn gan Google Analytics i helpu i goladu ystadegau i ddweud wrthym sut mae’n hymwelwyr yn defnyddio’n gwefan. Bydd ein staff yn defnyddio’r wybodaeth honno mewn adroddiadau agregedig i helpu i fesur y profiad a gaiff ein hymwelwyr, a sut y gallem ei wella. Perfformiad
beth, ble, casgliadau, cyfeiriadau, eraill Fe’i defnyddir i storio’ch hoffterau fel defnyddiwr ar sail ffurflen Chwiliad Manwl. Perfformiad
Cwci Sesiwn (Enw Ffeil Unigryw – enw ffeil alffaniwmerig 32-digid) Defnyddir y cwci hwn i storio cyfeiriad at ddata sesiwn. Fe’i defnyddir yn gyffredin i storio sesiynau’r defnyddiwr. Caiff y cwci hwn ei ddileu wrth gau’r porwr. Perfformiad

Rheoli Cwcis

Mae gwefan Coflein wedi’i dylunio i ddefnyddio cwcis i wella’ch profiad o bori. Os byddai’n well gennych, gallwch chi newid gosodiadau’ch porwr i ddileu a/neu atal defnyddio cwcis, ond wedi hynny ni fydd rhannau o Coflein yn gweithio’n unol â’r bwriad ac fe all gwallau pori ddigwydd. Cewch wybod rhagor am hyn yn rheoli cwcis.