Adeiladwyd Castell Conwy gan Edward I, brenin Lloegr, rhwng 1283 a 1287 fel rhan o'i goncwest o Gymru ac fe'i hystyrir yn un o'r enghreifftiau gorau o bensaerniaeth gaerog y drydedd ganrif ar ddeg. Roedd yn un o safleoedd allweddol ymgais Edward i ddarostwng y Cymry drwy amgau Gogledd Cymru a 'chylch haearn' o gestyll, a gyflenwid a nwyddau a bwyd gan y trefedigaethau Seisnig a sefydlwyd yn y trefi caerog a godwyd yn gysylltiedig a hwy. Fel ei holl brif gestyll Cymreig, mae Castell Conwy ar yr arfordir fel y gellid cludo deunyddiau adeiladu a chyflenwadau milwrol i'r safle ar longau, gan osgoi gorfod croesi tir gelyniaethus. Fodd bynnag, wrth i asedau Edward brinhau erbyn dechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg, nid oedd llawer o lewyrch ar y castell a'r dref ac roeddent yn dioddef o ddiffyg cyflenwadau.
Yn 1399, cafodd y brenin Richard II loches yno pan wrthryfelodd Henry Bolingbroke - a goronwyd yn fuan wedyn yn Harri'r IV - yn ei erbyn. Ddwy flynedd yn ddiweddarach daeth gwrthryfel ar warthaf y castell a'r dref drachefn wrth iddynt gael eu cipio gan y Cymry dan arweiniad Owain Glynd'r. Er i'r castell gael ei gadarnhau yn ystod Rhyfel y Rhosynnau, ni chwaraeodd unrhyw ran o bwys yn y gwrthdaro hwnnw, ond fe'i hamddiffynnwyd yn llwyddiannus dros Siarl I yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr.
Gyda dyfodiad twristiaeth fodern at ddiwedd y ddeunawfed ganrif, daeth y castell adfeiliedig yn un o brif atyniadau twristiaid ar eu teithiau ar hyd arfordir Gogledd Cymru. Yn dilyn adeiladu pont grog Thomas Telford a Rheilffordd Caer i Gaergybi, cynyddodd diddordeb yn ei gadwraeth ac, yn 1865, dechreuwyd gwaith i adfer y castell ar ol iddo ddod yn eiddo i'r dref. Yn 1986 cafodd Conwy ei chydnabod yn rhan o Safle Treftadaeth Byd Cestyll a Muriau Trefol Edward I gan UNESCO, ynghyd a Biwmares, Caernarfon a Harlech. Erbyn hyn Cadw sy'n gyfrifol am gynnal Castell Conwy.
Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.
Adnoddau
LawrlwythoMathFfynhonnellDisgrifiad
application/pdfETW - European Travellers to Wales ProjectDescription of a visit to Conwy Castle by Arthur d'Arcis from 'Voyage au nord du pays de Galles' (c. 1866). Text available in Welsh, English, French and German. Produced through the European Travellers to Wales project.