Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Tu Hwnt I'r Bont

Loading Map
NPRN16919
Cyfeirnod MapSH76SE
Cyfeirnod GridSH7981361464
Awdurdod Unedol (Lleol)Conwy
Hen SirSir Gaernarfon
CymunedTrefriw
Math O Safle
Cyfnod17eg Ganrif
Disgrifiad

Ty deulawr bach ger y Bont Fawr, Llanrwst, (NPRN 24053), yw Tu Hwnt i'r Bont. Mae?n debyg iddo gael ei godi tua'r un pryd. Mae pen dwyreiniol y t? yn dyddio o'r ail ganrif ar bymtheg ac mae ganddo risiau carreg nodedig o gwmpas y lle tan eang. Estynnwyd pen gorllewinol yr adeilad o ryw chwe throedfedd (1.83m) yn y ddeunawfed ganrif, efallai pan gafodd yr adeilad ei droi?n ddau fwthyn. Ar yr un pryd, ailadeiladwyd y to ac ychwanegwyd ffenestri dormer. Mae'r lle tan a'r simnai orllewinol ychydig yn fwy diweddar. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ychwanegwyd rhesiad arall o ystafelloedd at gefn pen dwyreiniol yr adeilad. Dywedir i'r adeilad gael ei ddefnyddio?n llys am gyfnod yn hanner olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Erbyn y 1930au cynnar, roedd mewn cyflwr adfeiliedig; roedd difrod i'r to ac roedd llifogydd yn broblem gyson. Daeth yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol tua diwedd y 1930au pan wnaed ymgais i godi arian drwy danysgrifiad er mwyn ei ddiogelu. Penderfynwyd atgyweirio'r adeilad yn lle ei adfer, gan greu un ystafell ar bob llawr, a dyna'r cynllun mewnol hyd heddiw.

Adeilad o gerrig rwbel ydyw, gyda ffenestri casment modern, toeau llechi, simneiau talcen, a thair ffenestr ddormer dalcennog. Mae'r fynedfa?n wynebu'r afon ac mae?n nes at ben dwyreiniol yr adeilad. Y tu mewn, mae trawst dwyreiniol y nenfwd a rhai o'r distiau wedi?u stop-siamffro ac yn wreiddiol, er bod y rhai tua'r gorllewin yn fodern. Er i'r to gael ei ailadeiladu yn y ddeunawfed ganrif, mae gan y cyplau draed crwm ac mae?n debyg iddynt ddod o do cynharach a chanddo oleddf mwy serth a threfniant gwahanol o goleri. Casglwyd peth tystiolaeth ynghylch safle'r parwydydd o dan y cyplau.

(Ffynonellau: Archif CHCC, Caernarvon Parish File, T/03/03; Ffeil Gofrestredig Cadw 8M/1465; Adroddiad Cadw ar Adeilad Rhestredig, 3162; CBHC, An Inventory of the Ancient Monuments in Caernarvonshire (London: HMSO, 1956), cyf. 1, tt. 189-90)
A.N. Coward, CBHC, 21.05.2019