NPRN23396
Cyfeirnod MapSH86SW
Cyfeirnod GridSH8021861406
Awdurdod Unedol (Lleol)Conwy
Hen SirDenbighshire
CymunedLlanrwst
Math O SafleYSGOL GENEDLAETHOL
CyfnodÔl-Ganoloesol
Disgrifiad
Adeiladwyd yr ysgol hon ym 1846 yn ol cynllun Henry Kennedy, a gynlluniodd d?'r ysgolfeistr gerllaw hefyd. Mae?n dilyn arddull `Jacobeaidd? a chafodd ei adeiladu o gerrig rwbel sgwarog nad ydynt mewn haenau. Mae ganddo garreg rywiog o gwmpas ei agoriadau, toeau llechi, cafnau carreg, a dwy simnai wythonglog. Mae'r fynedfa drwy loggia rhwng dwy groes-adain y mae ganddynt dalcenni a cherrig copa, dolennau apig croesffurf, a ffenestri bwaog tair-rhan. Mae loggia'r fynedfa yn arwain at ddrws canolog gyda ffenestri dwy-ran ar y naill ochr a'r llall, ac mae gan y cilfachau de a chwith ddrysau sy?n arwain at yr ystafelloedd dosbarth. Estynnwyd y groes-adain ddeheuol i'r gorllewin yn ddiweddarach a chafodd porth deheuol ei ychwanegu.
Mae cynllun Kennedy yn dangos bod yr adeiladwaith cymesur wedi?i rannu?n ardaloedd i fechgyn ac i ferched. Roedd cyfleusterau i ferched ar y chwith ac i fechgyn ar y dde. Roedd gan y ddwy groes-adain ystafelloedd dosbarth mawr, pob un a lle i 120 plentyn. Roedd ystafell bwyllgor neu ystafell ddosbarth lai rhwng y ddwy ystafell ddosbarth fawr, a chynteddau, cypyrddau ac ystafelloedd ymolchi y tu ol iddynt. Y tu ol i'r buarth chwarae, a oedd wedi?i rannu hefyd, yr oedd cwt glo/coed, ac roedd tai bach y tu ol i hwn.
(Ffynonellau: Archif CHCC, Casgliad Lluniadau Ysgol Malcom Seaborne, 1/DE/07; Edward Hubbard, Buildings of Wales: Clwyd (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1986), t. 237; Disgrifiad Cadw o Adeilad Rhestredig, 3596)
A.N. Coward, CBHC, 22.05.2019