Cafodd Neuadd y Dref Llanrwst ei chodi ym 1661 yng nghanol stryd fawr y dref. Roedd yn adeilad cerrig gydag agoriadau pengrwn ar y llawr gwaelod, a chloch siap diemwnt a grisiau cerrig ar y talcen blaen. Roedd ganddi do ar oleddf gyda chwt clychau ar ei ben. Prin y gellid gweld pennau ffenestri'r islawr uwchben y lon. Cafodd ei dymchwel ym 1963.