Disgrifiad
Yn ol traddodiad, cafodd pont Llanrwst ei chynllunio gan Inigo Jones ym 1636, ond gwnaed y cysylltiad mae?n debyg gan fod Richard Wynn o Wydir yn Drysorydd y Frenhines ac y byddai wedi talu Jones a Nicholas Stone, ei brif saer maen, am blac a gomisiynodd ganddynt ar gyfer eglwys Llanrwst ym 1634. Mae?n bosibl bod cynllun y bont yn seiliedig ar gynllun tebyg Palladio ar gyfer pont dri-bwa gyda phrif rychwant o 60 troedfedd (18 metr) a rhychwantau allanol o 48 troedfedd (15 metr).
Mae gan bont Llanrwst rychwantau o 60 troedfedd a 40 troedfedd (12 metr). Cafodd y bwa gorllewinol ei ailadeiladu ym 1675, ac eto ym 1703. Cafodd ei hadeiladu o garreg grut leol mewn haenau a rwbel llechi. Mae?n bont ffordd a goleddf serth gyda thri bwa segmentol. Mae torddyfroedd ar bob ochr yn parhau at i fyny i ffurfio llochesau yn y canllaw. Mae gan y canllaw gerrig copa siamffrog gyda chrampiau haearn. Mae gan y bont furiau dynesu ymledol.
Uwchben apig y bwa canolog, mae gan y canllaw deheuol gerfwedd garreg o arfbais y Stiwartiaid (ynghyd a'r blaenlythrennau `CR?) wedi?i gosod mewn ffram gyda cholofnau ffliwtiog arosodedig sy?n cynnal entablature blodeuol a chrib bigfain; o dan yr arfbais ceir y dyddiad `1636?. Cafodd deial haul ei osod i nodi trichanmlwyddiant y bont. Yn yr un safle, ar y canllaw gogleddol, mae plu Tywysog Cymru yn codi o goron, gyda'r llythrennau `CP? ar y naill ochr a'r llall. Mae gan y canllaw mewnol gerrig cerbyd i amddiffyn y gwaith maen. Mae'r blaenlythrennau `TR? i?w gweld ar y canllaw deheuol mewnol uwchlaw y bwa gorllewinol a ailadeiladwyd.
Ffynhonnell: Cronfa ddata Adeiladau Rhestredig Cadw
Ffynhonnell: Haslam, Orbach a Voelcker (2009), The Buildings of Wales: Gwynedd. Pevsner Architectural Guide, tudalen 381
CBHC, Hydref 2009