Disgrifiad
Roedd Plas Isaf ar safle ym mhen gogleddol Poplar Grove/Plas Isaf, gyferbyn a Gorsaf Reilffordd Gogledd Llanrwst ar yr ochr arall i Station Road (NPRN 96158). Mae?n fwyaf adnabyddus fel cartref yr ysgolhaig dyneiddiol a chyfieithydd William Salesbury (cyn 1520-c.1584), a oedd yn fwyaf enwog am ei gyfieithiad o'r Llyfr Gweddi Gyffredin a'r Testament Newydd (gyda Richard Davies a Thomas Huet) i'r Gymraeg ym 1567. Symudodd i Blas Isaf, cartref ei dad a?i frawd, o Gae Du, Llansannan (NPRN 26904) cyn 1540.
Mae?n debyg bod y t? yn dyddio o ganol neu ddiwedd y bymthegfed ganrif, gan iddo ddod i feddiant taid William, Thomas Salusbury Hen, y dywedir iddo farw ym Mrwydr Barnet ym 1471 (er ei bod hi?n bosibl iddo fyw hyd 1490). Dymchwelwyd yr adeilad ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, tua 1910 o bosibl. Nodir cyflwr adfeiliedig y t? mewn disgrifiadau o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif. Mae darlun a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn Cymru, cyfrol 10 (1896), t. 116, yn dangos adeilad o gerrig rwbel gyda simnai uchel amlwg yn codi o'r prif adeiladwaith. Nid oedd to ar y t?, roedd y trawstiau yn y golwg, ac roedd croes-adain dalcennog yn y cefn. Mae ffotograff cyfoes, a ymddangosodd yn The Heart of Northern Wales gan W. Bezant Lowe (t.293, ffig. 152), yn dangos golwg tebyg, ond bod y rhan fwyaf o'r adeilad wedi ei chuddio gan eiddew.
Mae paentiad o ddechrau'r ugeinfed ganrif gan Nancy Thomas yn dangos yr un golwg ond mae rhai adeiladweithiau mwy modern i?w gweld yn y cefn. Ar sail y cynllun o'r adeilad ar Fapiau Arolwg Ordnans 25", argraffiad 1af ac 2il argraffiad, ochr fwyaf gorllewinol adeiladwaith mwy o faint oedd yr adeiladwaith adfeiliedig y rhoddir lle amlwg iddo yn y lluniau hyn, ac roedd adeiladau mwy modern i'r dwyrain. Mae?n debyg bod un o'r rhain i?w weld ar gerdyn post o ddechrau'r ugeinfed ganrif sy?n dangos `The Home of ?William Salesbury??. Yr oedd hwn yn adeiladwaith deulawr wedi?i rendro, gyda tho lechi, ffenestri dalennog, a phorth talcennog yn y canol.
(Ffynonellau: Archif CHCC, Ffeil Safle, Sir Ddinbych/Domestig/SH76SE; Y Bywgraffiadur Cymreig, s.v. Salisbury, William; Oxford Dictionary of National Biography, s.v. Salisbury, William; Ibid., s.v. Teulu Salusbury [Salesbury]; Nancy Thomas, `Plas Isaf, Llanrwst?, olew ar gynfas, dechrau'r 20fed ganrif, Llyfrgell Genedlaethol Cymru; `Plas Isaf Llanrwst? (Darlun), Cymru, 10 (1896), 116; Papurau Newydd Cymru Arlein: `Hen Gartref Wm. Salisbury?, Y Cymro, 22.09.1898, 5; `News and Observations?, Aberystwyth Observer, 27.10.1898, 2; [Dim Teitl], North Wales Express, 18.10.1898, 5)
A.N. Coward, CBHC, 15.05.2019