Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Pilleth;Pyllalai; Battle at Bryn Glas; Battle of Pilleth

Loading Map
NPRN306352
Cyfeirnod MapSO26NE
Cyfeirnod GridSO2552268169
Awdurdod Unedol (Lleol)Powys
Hen SirRadnorshire
CymunedLlangunllo
Math O SafleSAFLE BRWYDR
CyfnodCanoloesol
Disgrifiad
I daflu goleuni ar ystyriaeth o'r Rhestr o Feysydd Brwydro Hanesyddol yng Nghymrucynhaliwyd rhaglen gam wrth gam o ymchwilio i frwydr Bryn Glas. Mae adroddiadau manwl ar yr ymchwiliadau hyn ar gael ac yn cynnwys ymchwil hanesyddol a dogfennol (Border Archaeology, 2009), dau gyfnod o waith, un heb fod yn ymyrryd a'r safle a'r llall yn ymyrol (Archaeoleg Cymru 2012 a 2014) a chloddio (Archaeoleg Cymru, 2013).

Roddir adroddiad am y frwydr mewn sawl cronicl Cymraeg a Saesneg o gyfnod y frwydr neu o gyfnod agos iawn ati (Border Archaeology, 2009). Ceir yr adroddiad mwyaf manwl am y frwydr yn Historia Vitae et Regni Ricardi Secundia ysgrifennwyd yn abaty Evesham oddeutu 1413, sy?n cofnodi i Edmund Mortimer gael ei gipio ar 22ain Mehefin 1402 pan oedd:

Owain Glyndwr wedi dod i lawr o fynyddoedd Cymru gydag ychydig o ddynion, ac yr oedd ar un o'r mynyddoedd ger Pilleth ...dringodd y mynydd yn ddi-ofn. Ac felly, pan ddaeth y ddau lu at ei gilydd ar ruthr enfawr, bu i'r Cymru o Faelienydd, y cyfeiriwyd atynt eisoes ... droi yn erbyn eu harglwydd eu hunain... daliwyd Edmund yn gyhoeddus a llawer eraill gydag ef... lladdwyd oddeutu pedwar cant o Saeson, ac yn eu plith yr oedd pedwar marchog, gan gynnwys yr Arglwydd Kynard de la Bere (Livingstone a Bollard, 78-9)

Mae?n anodd, ar sail y dystiolaeth ddogfennol ac archaeolegol sydd ar gael, i bennu?n union pa bryd yr ymladdwyd y frwydr. Mae'r Wigmore Chronicle yn enwi safle'r frwydr fel `ar ben bryn o'r enw Bryn Glas ym Maelienydd ger Trefyclo?, y gellir ei adnabod fel y bryn yn union i'r gorllewin o eglwys y plwyf St Mair (SO 254 682), ond lle na chanfuwyd unrhyw dystiolaeth gan waith maes archaeolegol heb fod yn ymyrryd a'r safle a gwaith ymyrol (Archaeoleg Cymru, 2012 a 2013). Mae nodyn gan Nicholas Bysshop a ysgrifennwyd oddeutu 1432 yn gosod y frwydr `ar fryn gyda ffynnon ac ar ochr dde bryn gerllaw? (Bryn Graig, SO 253 689) (Griffiths, 116) ac mae'r Prose Brut yn ei lleoli `ar y Bryn Du?? (SO 248 693). Mae'r safle mwyaf tebygol rywle yng nghyffiniau'r tri bryn yma.

CBHC, Ionawr 2017
Adnoddau
LawrlwythoMathFfynhonnellDisgrifiad
application/pdfAWP_309_03_02 - Archaeology Wales Project ArchivesFinal report on Pilleth battlefield, produced in March 2014. Report no. 1209. Part of the Welsh Battlefield Metal Detector Survey, carried out by Archaeology Wales, 2012-2014. Project code: 2041 - WBS/12/SUR.
application/pdfAWP_309_01_02 - Archaeology Wales Project ArchivesFinal report on Pilleth battlefield, produced in March 2012. Report no. 1048. Part of the Welsh Battlefield Metal Detector Survey, carried out by Archaeology Wales, 2012-2014. Project code: 2041 - WBS/12/SUR.
application/vnd.ms-excelAWP_309_01_01 - Archaeology Wales Project ArchivesList of finds from Pilleth battlefield. Finds discovered during the Welsh Battlefield Metal Detector Survey, carried out by Archaeology Wales, 2012-2014. Project code: 2041 - WBS/12/SUR.
application/pdfAWP - Archaeology Wales Project ArchivesReport on Battlefield Survey of Pilleth, produced by Chris E. Smith in March 2013. Report no. 1110. Part of Phase Two of the Welsh Battlefield Metal Detector Survey, carried out by Archaeology Wales, 2012-2014. Project code: 2041 - WBS/12/SUR.
application/pdfAWP_309_03_04 - Archaeology Wales Project ArchivesLIDAR image for Pilleth battlefield, part of Phase Three of the Welsh Battlefield Metal Detector Survey. Carried out by Archaeology Wales, 2012-2014. Project code: 2041 - WBS/12/SUR.