I oleuo ystyriaeth o'r Rhestr o Feysydd Brwydro Hanesyddol yng Nghymru, cynhaliwyd rhaglen o archwilio gam wrth gam yng nghyswllt brwydr Sain Ffagan 1648. Mae adroddiadau manwl o'r archwiliadau hyn ar gael ac yn cynnwys ymchwil ddogfennol a hanesyddol (Border Archaeology), a gwaith maes heb fod yn ymyrryd (Archaeoleg Cymru 2012 a 2013).
Gellir edrych ar frwydr Sain Ffagan yn erbyn cefndir y Gwrthryfel Cymreig yn ystod Ail Ryfel Cartref Lloegr a dyma'r tro diwethaf i luoedd y Brenhinwyr gael eu trechu; yr oedd mewn gwirionedd yn nodi diwedd unrhyw ymgais realistig gan y Brenhinwyr i ail-sefydlu awdurdod llawn Siarl I. Cyn y frwydr, bwriad y Brenhinwyr, dan arweiniad yr Uwchfrigadydd Laugharne, oedd gorymdeithio i Gaerdydd a?i gipio; fodd bynnag, gorymdeithiodd llu bychan o Seneddwyr o oddeutu 3000 o ddynion dan y Cyrnol Thomas Horton, a oedd wedi bod yn cymryd rhan mewn ymgyrch galed yn Aberhonddu a'r cyffiniau, tua'r de er mwyn eu hatal, gan gyrraedd Sain Ffagan ar 4 Mai 1648. Yma, sefydlodd Horton bencadlys dros dro, gan aros am filwyr ychwanegol gan Cromwell, mewn ffermdy o'r enw Pentrebane (ST 1202 7852, Adeilad Rhestredig Gradd II 82247). Roedd y Brenhinwyr ar y pryd hwn ond dwy filltir i ffwrdd a sefydlwyd gwersyll ganddynt ar y Twyni o gwmpas Sain Nicholas (ST 091 742) cyn cilio i'r gorllewin i Fro Morgannwg, gan ddychwelyd i Sain Nicholas ar 7 Mai.
Mae?n anodd darganfod union drefn y digwyddiad ei hun. Mae sawl adroddiad yn bodoli mewn gohebiaeth o ochr y Seneddwyr ond mae diffyg o ran ffyhonellau o ochr y Brenhinwyr.
Ymosododd y Brenhinwyr oddeutu 7am ddydd Llun 8fed Mai, gan obeithio cael buddugoliaeth cyn y filwyr ychwanegol Cromwell gyrraedd. Fodd bynnag, yn fuan roedd y Seneddwyr wedi cael y llaw uchaf arnynt, ac o fewn 2 awr roedd byddin y Brenhinwyr wedi ei hamgylchynu?n llwyr gan y Seneddwyr, pryd y gwahanodd llu'r Brenhinwyr a ffoi. Yna aeth marchogion y Seneddwyr i gasglu carcharorion, ac o'r 8000 o Frenhinwyr yr amcangyfrifir iddynt ddechrau'r frwydr, cipiwyd oddeutu 3000 o filwyr cyffredin a thros 400 o swyddogion yn garcharorion, gan gynnwys Laugharne. Yn ogystal a hyn, cymerwyd dros 2000 o ddrylliau ac arfau eraill.
Nid oes sicrwydd am union leoliad y frwydr; nid yw?n cael ei nodi?n benodol gan unrhyw ffynhonnell uniongyrchol ac mae?n debygol o fod wedi gwasgaru dros ardal weddol fawr, ac un a dyfodd yn fwy unwaith yr oedd llu'r Brenhinwyr wedi gwasgaru wrth ffoi. Mae mapiau hanesyddol a modern yr Arolwg Ordnans yn nodi safle'r frwydr yn nesaf at Tregochas yn ST 1066 7798. Mae?n ymddangos yn glir i'r ddwy fyddin fod naill ochr i ffrwd neu afon, a chyda pheth sicrwydd gellir nodi mai Nant Dowlais ydoedd, lle y mae'r bont bresennol ar draws yr afon yn ST 10437 77909 yn yr un lleoliad a'r bont yr ymladdwyd drosti yn y frwydr. I gefnogi'r dybiaeth hon, bu i raglen o archwilio archaeolegol, gan gynnwys arolwg gan ddefnyddio synhwyrydd metalau ( metal detector) mewn caeau yn union i'r gogledd, y dwyrain a'r de o'r bont ddatgelu llu mawr o ddarganfyddiadau yn gysylltiedig a'r frwydr gan gynnwys pelenni plwm, byclau, botymau ac offer marchfilwyr yn ogystal ag eitemau personol fel llwyau, plat a gwniaduron (Archaeoleg Cymru 2012). Bu i archwiliadau archaeolegol pellach rhwng 500m a 1.3km oddi wrth y bont hefyd gynhyrchu darganfyddiadau, er bod llawer llai ohonynt, gan awgrymu eu bod ymhellach i ffwrdd o brif safle'r frwydr neu?n destun ymladd llai ffyrnig (Archaeoleg Cymru Wales, 2013).
Mae lleoliadau eraill hefyd wedi?u cysylltu a'r frwydr yn draddodiadol, gan gynnwys cae yng nghefn t?'r rheithor presennol yn Sain Ffagan (ST 1214 7736), a farciwyd ar ddosraniad degwm 1839 fel `Cae Meirch? (Cae'r ceffylau rhyfel) lle y tybir i'r Cyrnol Horton gasgu ei holl feirch ynghyd wrth baratoi am y frwydr. Mae son hefyd am dwmwlws a archwiliwyd gan yr hynafiaethydd lleol W. David yn 1872 i'r gogledd-ddwyrain o St y Nyll lle y nodwyd tystiolaeth o olion dynol, gan awgrymu mai yno y claddwyd rhai unigolion a laddwyd yn ystod y frwydr. Mae?n aneglur a oes modd cysylltu'r twmwlws a archwiliwyd gan David a'r twmpath beddrod a archwiliwyd gan Savory yn 1958 yn ST 1008 7829 (Heneb Restredig GM204).
CBHC, Ionawr 2017
Llyfryddiaeth
Archaeology Wales, 1648 Battle of St Fagans, Cardiff: Battlefield Survey (2012).
Archaeology Wales, 1648 Battle of St Fagans, Cardiff: Battlefield Survey (2013).
Border Archaeology, St Fagans (8 May 1648): Documentary and Historical Research Report (2009).
Adnoddau
LawrlwythoMathFfynhonnellDisgrifiad
application/pdfAWP - Archaeology Wales Project ArchivesReport on Battlefield Survey of St. Fagans, Cardiff, produced by Chris E. Smith in March 2013. Report no. 1109. Part of Phase Two of the Welsh Battlefield Metal Detector Survey, carried out by Archaeology Wales, 2012-2014. Project code: 2041 - WBS/12/SUR.
application/pdfAWP_309_01_02 - Archaeology Wales Project ArchivesFinal report on St. Fagans battlefield, produced in March 2012. Report no. 1056. Part of the Welsh Battlefield Metal Detector Survey, carried out by Archaeology Wales, 2012-2014. Project code: 2041 - WBS/12/SUR.
application/vnd.ms-excelAWP_309_01_01 - Archaeology Wales Project ArchivesList of finds from St. Fagans battlefield. Finds discovered during the Welsh Battlefield Metal Detector Survey, carried out by Archaeology Wales, 2012-2014. Project code: 2041 - WBS/12/SUR.