Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

St Winifred's

Loading Map
NPRN32328
Cyfeirnod MapSJ17NE
Cyfeirnod GridSJ1851076270
Awdurdod Unedol (Lleol)Flintshire
Hen SirSir y Fflint
CymunedHolywell
Math O SafleCAPEL FFYNNON
CyfnodCanoloesol
Disgrifiad
Mae chwedl Santes Gwenfrewi yn adrodd hanes uchelwraig Gymreig o'r seithfed ganrif a benderfynodd gysegru ei bywyd i wasanaeth yr Eglwys Gristnogol a mynd yn lleian. Ond roedd tywysog lleol, Caradog, ei heisiau yn gariad ac, wedi ei gynddeiriogi gan ei phenderfyniad, fe wnaeth dorri ei phen i ffwrdd a roliodd hwnnw i lawr gallt. Roedd ei hewythr, Sant Beuno, yn dyst i'w llofruddiaeth a rhuthrodd i'r lle roedd pen Gwenfewi'n gorwedd a'i gario at ei chorff difywyd. Gan alw am gymorth o'r nefoedd, llwyddodd Beuno i atgyfodi Gwenfrewi a rhoi ei phen yn ol ar ei chorff, ond syrthiodd Caradog yn farw yn y fan a'r lle ac fe'i llyncwyd gan y ddaear. Fel arwydd o'r wyrth, bu llinell fain goch o amgylch gwddf Gwenfrewi weddill ei hoes. Arhosodd yn Nhreffynnon am wyth mlynedd cyn ymneilltuo i leiandy arall yng Ngwytherin, uwchlaw Dyffryn Conwy. Mae dau ddiwrnod wedi'u cysegru iddynt, sef diwrnod ei hatgyfodiad gwyrthiol a diwrnod ei marwolaeth.

Mae'r ffynnon yn tarddu o'r fan lle dywedir i'w phen a dorrwyd ddod i orffwys a, diolch i nodweddion iachusol honedig y dyfroedd, fe'i hystyrir yn un o Saith Rhyfeddod Cymru. Roedd Ffynnon Gwenfrewi yn gyrchfan pererindod mor gynnar a'r ddeuddegfed ganrif. Yn y bymthegfed ganrif, adeiladodd Margaret Beaufort gapel wrth ochr y ffynnon, yn arwain at bwll ymdrochi i bererinion. Yn ystod Diwygiad Protestannaidd y 1530au fe wnaeth diwygwyr Anglicanaidd ddinistrio llawer o gysegrfeydd a chreiriau Catholig ar draws Prydain; fodd bynnag, parhawyd i gyrchu at Ffynnon Gwenfrewi ar hyd y canrifoedd er gwaethaf erledigaeth a gwrthwynebiad y wladwriaeth. Yn y ddeunawfed ganrif, dechreuodd poblogaeth Gatholig ardal Treffynnon gynyddu hyd yn oed.

Erbyn dyfodiad twristiaeth fodern yn y cyfnod Rhamantaidd, roedd teithwyr yn ystyried y capel a'r ffynnon sanctaidd fel crair hynod o'r cyfnod Catholig er bod Cymru'n gadarn ei Phrotestaniaeth erbyn hynny. Heddiw, gofelir am Ffynnon a Chapel Gwenfrewi ar y cyd gan Cadw a'r Eglwys Babyddol ac maent, ynghyd a'r amgueddfa gerllaw, yn agored yn ddyddiol.

Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.
Adnoddau
LawrlwythoMathFfynhonnellDisgrifiad
application/pdfETW - European Travellers to Wales ProjectDescription of a visit to St. Winefrides Well by Arthur d'Arcis from 'Voyage au nord du pays de Galles' (c. 1866). Text available in Welsh, English, French and German. Produced through the European Travellers to Wales project.
application/pdfCMC - Cadw Monuments in Care CollectionDigital copy of Assessment Report on surviving decoration at St. Winefride's Well, Holywell. Produced for Cadw by Paine & Stewart.