Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Tintern Abbey

Loading Map
NPRN359
Cyfeirnod MapST59NW
Cyfeirnod GridST5331099990
Awdurdod Unedol (Lleol)Monmouthshire
Hen SirSir Fynwy
CymunedTintern
Math O SafleABATY
CyfnodCanoloesol
Disgrifiad
Abaty Tyndyrn oedd y fynachlog Sistersaidd gyntaf i'w sefydlu yng Nghymru. Fe'i sefydlwyd yn 1131 gan Walter fitzRichard o Clare a'i phreswylwyr cyntaf oedd gr?p o fynaich a ddaeth yno o'r fam-fynachlog l'Aumone yn Ffrainc. Gyda thwf y gymuned, helaethwyd yr adeiladau mynachaidd ac, yn 1269, dechreuwyd adeiladu'r eglwys Gothig y gellir gweld ei hadfeilion heddiw.

Rhannwyd y tir o amgylch y fynachlog yn faenorau a oedd yn cael eu ffermio gan frodyr lleyg. Ar ol i'r Pla Du ysgubo drwy'r wlad yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, gan anrheithio'r mynaich a'r boblogaeth leol fel ei gilydd, bu'n rhaid gosod y tir i denantiaid. Yn ystod Gwrthryfel Glynd'r, 1400-15, dinistriwyd llawer o eiddo'r abaty gan y gwrthryfelwyr, a chyfrannodd hynny at drafferthion ariannol parhaus y fynachlog. Ildiodd yr Abad Wyche yr eglwys a'r abaty yn dilyn y Ddeddf Ataliad Gyntaf yn 1536 pan fynnodd y brenin Harri'r VIII ddiddymu'r mynachlogydd. Tynnwyd y plwm gwerthfawr oddi ar doeau'r adeiladau gan achosi iddynt ddadfeilio'n gyflym wedyn. Dros y ddwy ganrif nesaf roedd y safle'n gartref i fythynnod a gweithdai trigolion lleol tlawd a gweithwyr o'r gwaith cynhyrchu gwifrau cyfagos.

Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif roedd wedi dod yn ffasiynol i ymweld a dyffrynnoedd a mynydd-dir Cymru a chael golwg ar adfeilion canoloesol y wlad. Fe wnaeth Dug Beaufort, perchen Tyndyrn ar y pryd, glirio'r tir o amgylch y fynachlog i'w gwneud yn fwy hygyrch i dwristiaid, ond gadawodd y eiddew trwchus a orchuddiai'r eglwys heb ei gyffwrdd. Yn fuan fe wnaeth barddoniaeth ramantaidd a thirluniau droi Abaty Tyndyrn yn enghraifft berffaith o adfeilion canoloesol mewn tirwedd hardd.

Prynwyd yr adfeilion gan y Goron yn 1901 gan eu bod erbyn hynny'n cael eu hystyried yn heneb o bwysigrwydd cenedlaethol a throsglwyddwyd y cyfrifoldeb dros y safle i'r Weinyddiaeth Waith yn 1967. Erbyn hyn mae Abaty Tyndyrn yn adeilad rhestredig Gradd I ac yn heneb gofrestredig sydd dan ofal Cadw.

Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.
Adnoddau
LawrlwythoMathFfynhonnell
application/pdfAWP - Archaeology Wales Project Archives
application/vnd.ms-excelAWP - Archaeology Wales Project Archives
application/pdfAPAC - Archaeological Perspectives Analysis Consultancy (A.P.A.C. Ltd)
application/pdfETW - European Travellers to Wales Project