Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Crug Mawr, site of Battle, near Cardigan

Loading Map
NPRN402323
Cyfeirnod MapSN24NW
Cyfeirnod GridSN2060047400
Awdurdod Unedol (Lleol)Ceredigion
Hen SirCeredigion
CymunedLlangoedmor
Math O SafleSAFLE BRWYDR
CyfnodCanoloesol
Disgrifiad
I oleuo ystyriaeth o'r Rhestr o Feysydd Brwydro Hanesyddol yng Nghymru Rhestr o Feysydd Brwydro Hanesyddol yng Nghymru, comisiynwyd ymchwil ddogfennol a hanesyddol ar frwydr Crug Mawr ac mae'r adroddiad ymchwil a gafwyd o ganlyniad yn rhoi golwg fanwl ar y frwydr (Border Archaeology).

Roedd brwydr Crug Mawr yn nodi diweddglo cyfres o wrthryfeloedd gan y Cymry yn erbyn rheolaeth yr Eingl-Normaniaid yn union ar ol marwolaeth Harri I. Yma bu'r Cymry?n fuddugol gan ail-sefydlu arglwyddiaeth y Cymry dros gyfran sylweddol o dde a chanolbarth gorllewin Cymru ar draul yr argwyddi Anglo-Normanaidd a Ffleminaidd.

Caiff digwyddiadau'r frwydr eu dogfennu mewn nifer o ffynonellau croniclau Cymraeg a Saesneg (Border Archaeology). Mae'r Breviate Chroncle am y flwyddyn 1136 yn rhoi un o'r prif adroddiadau am y frwydr:

'owinus et catwaladrus iterum ad karedigean uenerunt ? quibus in adiutorium ? Grifinus filius Resi et resus filius ? hoeli et madocus filius idnerth et filii hoeli ad abertewi potenter venerunt quibus ex alia parte resisterunt ? stephanus constabularius et fili geraldi et omnes franci ab hosti sabrine usque ad meneuiam et flandrenses de Ros et prelio coram castello inito franci et flandrenses in fugam uersi capti sunt occisi sunt combusti et equorum pedibus conculcaci 189 et in fluuio tew? submerse (Gough-Cooper, b1158.3)

Cyfieithiad: 'Daeth Owain a Cadwaladr [ap Gruffydd] eto i Geredigion, y tro hwn gyda chymorth Gruffydd ap Rhys, Rhys ap Hywel, Madog ab Idnerth a meibion Hywel a daethant yn rymus i Aberteifi. I?w gwrthsefyll daeth Stephen y Cwnstabl, meibion Gerald a holl lu'r Ffrancod o Afon Hafren i Dyddewi yn ogystal a'r Ffleminiaid o'r Rhos; a bu brwydr o flaen y castell. Gyrrwyd y Ffrancod a'r Ffleminiaid ar ffo, cipiwyd rhai, lladdwyd rhai, a llosgwyd eraill. Sathrodd y ceffylau y milwyr troed a boddwyd hwy yn yr Afon Tywi' (Remfrey, 178).

Ac eithrio'r Itinerarium Kambriae gan Gerallt Gymro a'r Breviate Chronicle, mae'r rhan fwyaf o ffynonellau'r croniclau braidd yn annelwig o ran lleoliad y frwydr. Lleoliad traddodiadol y frwydr yw Crug Mawr, i'r gogledd ddwyrain o Aberteifi, ar sail cymal gan Gerallt Gymro. Roedd teulu Gerallt yn chwarae rhan amlwg yn y frwydr ac mae ef yn datgan yn benodol eu bod, o Gastell Aberteifi:

Cyfieithiad: 'aethom tuag at Lanbedr Pont Steffan, gan adael Crug Mawr, sef y Bryn Mawr, ar y chwith i ni yn fuan ar ol marchogaeth allan o Aberteifi. Ar y safle hwn ...y cafodd Gruffydd fab Rhys ap Tewdwr, fuddugoliaeth fawr dros y Saeson mewn brwydr lawn' (Thorpe, 177).

Dylid nodi, fodd bynnag, nad yw union leoliad Crug Mawr yn gwbl eglur a chymerir ei fod yn cyfeirio at y bryn conigol serth y cyfeirir ato fel `Banc y Warren? (SN 2042 4750) fel y?i nodir ar fapiau modern yr Arolwg Ordnans. Posibilrwydd arall y dylid ei ystyried yw nad yw Crug Mawr yn gyfeiriad at Banc y Warren yn unig, ond at y massif y mae Banc y Warren yn rhan ohono, yn ymestyn i'r gogledd-ddwyrain o Aberteifi tuag at Aberporth (Border Archaeology).

Mae'r adroddiad am y frwydr yn y Breviate Chronicle yn cynnig lleoliad gwahanol i'r un a roddir yn yr Itinerarium Kambriae ac yn awgrymu ei fod yn rhywle agos at Gastell Aberteifi ac afon Teifi (SN 178 460). Mae?n werth nodi y adroddir i benglogau `wedi?u hollti gan fwyelli rhyfel? gael eu codi o'r pridd yng nghyffiniau Pont Aberteifi (Pritchard, 35).

CBHC, Ionawr 2017

Llyfryddiaeth
Border Archaeology, Crug Mawr (1136): Documentary and Historical Research Report (2009).
Gough-Cooper, Henry (ed.) The Breviate Chronicle: Annales Cambriae, The B Text from London, National Archives, MS E164/1, pp. 2?26, online edition.
Pritchard, E.M., Cardigan Priory in the Olden Days, London (1904).
Remfry, Paul M. Annales Cambriae: A Translation of Harleian 3859: PRO E. 164/1: Cottonian Domitian, A1: Exeter Cathedral Library MS.3514 and MS Exchequer DB Neath, PRO E. 164/1 (Castle Studies Research, 2007).
Thorpe, Lewis (trans.), Gerald of Wales The Journey through Wales and The Description of Wales (Penguin, Harmondsworth, 1978).